Sefydlwyd y Rhwydwaith Gweithredu Clefyd yr Afu Cenedlaethol ym mis Hydref 2023 i fwrw ymlaen â'r gwaith a ddechreuwyd gan y Grŵp Gweithredu Clefydau'r Afu.
Rydyn ni'n cefnogi cynnydd o ran bodloni’r blaenoriaethau a nodir yn ' Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu ’.
Mae ein haelodau’n cynnwys clinigwyr o bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth yng Nghymru, cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Afu Prydain a Sefydliad Clefyd yr Afu i Blant ac, yn hollbwysig, cynrychiolydd cleifion.
Mae cyfraddau marwolaethau ar gyfer clefyd yr afu yn y DU wedi cynyddu 400 y cant ers 1970 ac mae clefyd yr afu bellach yn achos marwolaeth cyffredin ar ôl canser, clefyd y galon, strôc a chlefyd anadlol. Mae tua 800 o bobl yn marw o glefyd yr afu yng Nghymru bob blwyddyn.
Nodau manwl y cynllun cyflawni yw gwella gweithgarwch a chanlyniadau ar draws chwe thema allweddol:
Mae gennym hefyd is-grwpiau sy'n bwrw ymlaen â meysydd gwaith penodol. Mae’r is-grwpiau hyn wedi datblygu cysylltiadau â Chymdeithas Gastroenteroleg ac Endosgopi Cymru a Chomisiwn Lancet ar Glefyd yr Afu yn y DU.