Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol

Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol

Amcangyfrifir bod 100,000 o bobl yn byw gyda chyflwr niwrolegol yng Nghymru, a bod tua 2,500 o ddiagnosisau newydd yn cael eu gwneud bob blwyddyn.

Disgwylir i nifer y rhai sy’n cael diagnosis o gyflwr niwrolegol gynyddu dros y blynyddoedd i ddod wrth i fwy o blant oroesi y tu hwnt i’w geni i fod yn oedolion, ac wrth i boblogaeth y DU heneiddio, felly hefyd nifer y bobl sy’n byw gyda chyflyrau niwrolegol sy’n gysylltiedig ag oedran.

Mae'r cyflyrau hyn nid yn unig yn effeithio'n sylweddol ar yr unigolion, ond hefyd y rhai o'u cwmpas, o ran ansawdd eu bywyd a'u gallu i fyw'n annibynnol. Mae'r effaith ar ansawdd bywyd yn fwy na chyflyrau cardiofasgwlaidd neu ddiabetes. ​

Bydd y Rhwydwaith Cyflyrau Niwrolegol yn gweithio i wella ansawdd, diogelwch, cynaliadwyedd a chanlyniadau gwasanaethau GIG Cymru o fewn ei gwmpas. Mae’r rhwydwaith yn rhan o Weithrediaeth y GIG fel elfen graidd o’r ‘system ddysgu iechyd a gofal’ a ddisgrifir yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol.

Mae’n sefyll yn y bwlch rhwng darparu gwasanaethau gweithredol mewn byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, a llunio polisi a strategaeth yn Llywodraeth Cymru, wedi’i arwain gan y Datganiad Ansawdd ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol.