Yn gyntaf, nid yw pawb yn gyffyrddus yn trafod rhyw...ond mae’n bwnc pwysig.
Wrth wella dealltwriaeth o ryw a pherthnasoedd, byddwch mewn sefyllfa well i gymryd penderfyniadau, yn cynnwys cadw’n saff a sicrhau na fydd diabetes Math 1 yn profi’n rhwystr.
Chi yn unig fydd yn gwybod pan fyddwch yn barod, ond bydd angen ystyried rhai pwyntiau:
- Oed cydsynio’r Deyrnas Unedig yw 16
- Mae’r oed cydsynio’n gymwys i bawb: dim ots pa ryw neu dueddfryd rhywiol
- Efallai na fydd yr oedran yma yn iawn i chi
- Bydd llawer o bobl yn aros tan yn hwyrach cyn cael rhyw am y tro cyntaf
- Bydd pobl yn teimlo’n barod am ryw ar amserau gwahanol, am resymau gwahanol
- Ni ddylech fod yn destun pwysau gan unrhyw un i gael rhyw