Yn 2020, cafodd 10,695 o bobl ychwanegol ddiagnosis o ddiabetes. Mae mwy na 209,015 o bobl yng Nghymru bellach yn byw gyda diabetes. Mae hyn yn wyth y cant o'r boblogaeth 17 oed a throsodd - y nifer uchaf yn y DU - ac mae'r niferoedd yn codi bob blwyddyn.
Mae diabetes yn effeithio ar drawstoriad eang o gymdeithas o fabanod i fenywod beichiog i'r henoed a gall effeithio ar gynifer o systemau corff gwahanol fel ei fod yn cyffwrdd â'r rhan fwyaf o feysydd iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae atal diabetes trwy leihau ffactorau risg y gellir eu haddasu yn nod allweddol i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gan ymyriadau o'r fath y fantais ychwanegol o leihau'r risg o gyflyrau cronig amrywiol eraill megis clefyd cardiofasgwlaidd ac anadlol.
Mae nifer yr achosion o ddiabetes yn uwch mewn ardaloedd o amddifadedd mwyaf, ac ymhlith cymunedau lleiafrifoedd ethnig. Dylid cynllunio gwasanaethau i leihau'r anghydraddoldeb iechyd hwn. Mae hunanreoli diabetes yn effeithiol yn hanfodol ac mae gwybodaeth, addysg strwythuredig a grymuso yn hanfodol i alluogi hyn.