Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Clefyd Llid y Coluddyn (IBD) dan y chwyddwydr

Clefyd Llid y Coluddyn (IBD) fydd yn cael blaenoriaeth ar yr agenda yr wythnos hon wrth i adroddiad am y DU gyfan gael ei lansio sy’n archwilio'r gofal y mae pobl sy'n byw gyda'r cyflwr yn ei dderbyn.

Mae 'The State of IBD Care in the UK' yn casglu barn 17,654 o bobl ag IBD, barn eu rhieni a’u gofalwyr, yn ogystal â barn 150 o wasanaethau IBD, i lunio argymhellion a fydd yn ysgogi camau gweithredu cenedlaethol a lleol i wella diagnosis a thriniaeth ledled y DU.

Bydd yr adroddiad yn cael ei lansio mewn digwyddiad ar-lein ar 12 Rhagfyr a gynhelir gan IBD UK, sef partneriaeth o 16 o gyrff proffesiynol, colegau brenhinol a sefydliadau cleifion. Bydd Dr Clare Tibbatts, arweinydd clinigol Rhwydwaith Gweithredu IBD GIG Cymru, yn un o'r siaradwyr yn y lansiad.

Dywedodd Dr Tibbatts: “Mae’r adroddiad hwn yn gyfraniad pwysig at ymdrechion i wella ansawdd y gofal y bydd pobl sy'n byw gydag IBD yn ei gael. Mae gormod o amrywiaeth o hyd o ran cael diagnosis a thriniaeth ac rwy’n gobeithio y bydd yr argymhellion yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio mewn ymarfer a pholisi gofal iechyd i fynd i’r afael â hyn fel y bydd pawb y mae IBD yn effeithio arnynt yn cael mynediad at y gofal sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt.”

Cyn y lansiad swyddogol, cynhaliodd Crohn's & Colitis UK dderbyniad Seneddol yn Nhŷ'r Arglwyddi, a gynhaliwyd gan y Farwnes Young o Old Scone, ar 4 Rhagfyr i dynnu sylw at ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad.  

Roedd Victoria Taylor, Rheolwr Rhwydwaith ar gyfer y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Cyflyrau Gastroberfeddol, yn bresennol yn y digwyddiad.

Dywedodd hithau: “Roedd y derbyniad Seneddol yn gyfle gwych i bobl sy’n byw gydag IBD a gweithwyr iechyd proffesiynol rannu eu profiadau ac i godi ymwybyddiaeth a dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth. Roeddwn yn falch iawn o allu cynrychioli’r Rhwydwaith a thynnu sylw at y gwaith y byddwn yn ei wneud yng Nghymru.”

Cynhelir lansiad rhithwirThe State of IBD Care in the UK’ ddydd Iau 12 Rhagfyr 2024, rhwng 18.00 a 19.15.

Cofrestru ar gyfer Lansiad Adroddiad IBD UK 

Bydd y weminar yn ymdrin â chanfyddiadau ac ystadegau allweddol, argymhellion y gellir eu rhoi ar waith, enghreifftiau o arferion gorau a bydd yn rhannu enghreifftiau o brofiadau bywyd.

Bydd y siaradwyr yn cynnwys:

  • Dr Jackie Craissati MBE - Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Crohn's & Colitis UK
  • Fern Howard - Cyfarwyddwr Gwasanaethau, Eiriolaeth a Thystiolaeth Dros Dro Crohn's & Colitis UK
  • Dr Barney Hawthorne - Arweinydd Meincnodi IBD y DU
  • Caroline Brocklehurst - Cynrychiolydd cleifion IBD y DU
  • Yr Athro Alan Lobo - Gastroenterolegydd Ymgynghorol, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Addysgu Sheffield  
  • Dr Clare Tibbatts - Arweinydd Clinigol IBD Cymru
  • Dr Ian Arnott – Gastroenterolegydd Ymgynghorol, Ysbyty Cyffredinol y Gorllewin, GIG Lothian
Wynebu'r Ffeithiau Wythnos Crohn a Cholitis | Crohn's & Colitis UK