Neidio i'r prif gynnwy

Nod 1: Cydgysylltu, cynllunio a chymorth ar gyfer poblogaethau sydd â risg uwch o fod angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng


Er mwyn atal yr angen am ofal brys neu ofal mewn argyfwng yn y dyfodol, dylai poblogaethau sy’n wynebu risg uwch o fod angen gofal o’r fath ddisgwyl cael cymorth rhagweithiol trwy gynllunio a chydgysylltu mwy manwl o’u hanghenion iechyd a gofal cymdeithasol. Dylai hyn gefnogi gwell canlyniadau, profiad a gwerth.

Datganiad Ansawdd:

·       Bydd rhieni neu warcheidwaid plant mewn lleoliadau ‘Blynyddoedd Cynnar’ yn cael cymorth i ragweld perygl damweiniau plant yn y cartref.

·      Mae pobl sy’n gymwys i fanteisio ar gynllun ‘Nyth’ Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn cael cynnig cymorth i wella’u gwytnwch a’u lles, trwy wella iechyd eu cartrefi.

·       Mae pobl sy’n byw gydag amryfal gyflyrau hirdymor yn cael cynnig cyfle i gymryd rhan mewn adolygiadau cyfannol rheolaidd ac i gyd-lunio cynllun gofal personol. Dylai hyn gynnwys cynnig i ofalwyr gymryd rhan mewn sgyrsiau am gynlluniau gofal. Dylai hyn gynnwys anghenion y gofalwr ei hun er mwyn helpu i atal y person y mae ganddo gyfrifoldebau gofalu amdano rhag gorfod mynd i’r ysbyty am resymau anghlinigol, os bydd y gofalwr yn mynd yn sâl yn sydyn.

·       Caiff pobl â syndromau eiddilwch, yn cynnwys pobl â dementia, eu pennu’n rhagweithiol gan dimau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau y byddant yn cael gofal gan dîm o weithwyr proffesiynol sy’n gymwys i asesu a rheoli eu hanghenion yn y cartref neu’n agosach at y cartref.

·       Mae timau cymunedol yn cefnogi unigolion sy’n unig, wedi’u hynysu’n gymdeithasol neu wedi’u hallgáu drwy gynlluniau presgripsiynau cymdeithasol, ymwybyddiaeth ohonynt ac anogaeth a chymorth i’w defnyddio.

·        Bydd pobl â phroblemau iechyd meddwl yn cael eu cefnogi drwy ganfod ac ymyrryd yn gynnar ym maes gofal sylfaenol, a chânt eu grymuso i gael mynediad at hunangymorth a chymorth cymunedol.

·       Mae pobl â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn cael cymorth i leihau eu risg o niwed trwy gael mynediad at gyngor gan y gweithiwr proffesiynol iawn. Gallant gael mynediad at wasanaethau adsefydlu, gwasanaethau adfer a gofal a gaiff ei lywio’n seicolegol.

·       Mae pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, a’r rhai y gwyddom eu bod yn wynebu risg uwch o gwympo, yn cael cynnig cymorth rhagweithiol trwy gyfrwng archwiliadau diogelwch yn y cartref, addasiadau yn y cartref a chyngor ynghylch mabwysiadu ymddygiadau iach sy’n briodol i’w hanghenion.

·       Gall pobl sydd â salwch sy’n byrhau bywyd sy’n gwaethygu gytuno ar gynllun gofal ymlaen llaw drwy gydweithio agos rhwng y person, ei deulu a’i ofalwyr; a’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’i ofal i’w alluogi i farw yn y lle o’i ddewis


I ddarllen mwy am Nod 1 gan gynnwys y blaenoriaethau cychwynnol, sut y bydd systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cefnogi i gyflawni'r nod hwn a sut y bydd llwyddiant yn cael ei fesur, cyfeiriwch at y Llawlyfr Polisi Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng.


Arweinydd Nod 1: Rhian MatthewsABB.SixGoalsUEC@wales.nhs.uk