Darperir yr ymateb cyflymaf a gorau i bobl sydd â’u bywydau yn y fantol; sy’n sâl iawn neu wedi cael anaf difrifol; neu sydd mewn argyfwng iechyd meddwl.
Datganiad Ansawdd:
· Bydd pobl sydd â phroblem iechyd meddwl neu sydd mewn trallod emosiynol yn cael ymateb cydgysylltiedig gan wasanaethau ar draws y llwybr gofal brys a gofal mewn argyfwng. Dylai hyn gysylltu:
· Yn achos pobl sy’n ffonio 999 ac sydd â phroblemau nad yw hi’n hanfodol ymateb iddynt yn syth, cânt eu hatgyfeirio i lwybrau yn y gymuned, llwybrau pwyntiau mynediad sengl iechyd meddwl neu lwybrau ysbyty mynediad uniongyrchol, neu cânt eu rhyddhau’n ddiogel dros y ffôn, ar ôl cynnal asesiad clinigol eilaidd.
· Yn achos pobl sy’n ffonio 999 er mwyn cael ambiwlans argyfwng ac sydd mewn perygl uniongyrchol o golli aelod o’u corff, neu sydd ag anaf neu salwch sensitif o ran amser, neu sydd angen gofal lliniarol, cânt yr ymateb cyflymaf a mwyaf priodol yn unol â’u hangen clinigol. Cânt eu cludo/atgyfeirio i’r llwybr mynediad uniongyrchol gorau ar sail eu hanghenion clinigol, a hynny cyn gynted â phosibl.
· Mae diffibrilwyr ar gael yn rhwydd ac yn hygyrch i’r cyhoedd, ac mae’r cyhoedd yn gwybod bod diffibrilwyr yn hawdd eu defnyddio ac na allant wneud unrhyw niwed.
· Dylai pobl sy’n cyrraedd yr ysbyty mewn ambiwlans gael eu trosglwyddo’n ddiogel o ddwylo clinigwyr yr ambiwlans i ofal clinigwyr yr ysbyty yn nhrefn eu blaenoriaeth glinigol, a hynny mewn modd amserol bob amser (awr ar y mwyaf).
· Bydd pobl sy’n cael gofal mewn Adran Argyfwng (ac yn yr ysbyty ehangach) yn profi amgylcheddau addas a phrosesau rhagweithiol. Ar ôl cyrraedd, bydd yr unigolyn yn cael ei adnabod yn gyflym, nodir pam mae wedi dod i’r ysbyty ac, ar ôl mynd ati i frysbennu, nodir beth fydd y cam nesaf yn ei ofal. Pa bryd bynnag y bo modd, dylid gwneud hyn o fewn 15 munud i’r adeg y bydd yr unigolyn yn cyrraedd, a dylai uwch-benderfynwr gynnal asesiad o fewn awr.
· Gall pobl sy’n dioddef cymhlethdodau acíwt oherwydd canser neu driniaeth canser osgoi’r Adran Argyfwng, pan fo hynny’n briodol, a chael mynediad di-oed at wasanaeth oncoleg acíwt er mwyn cael cymorth arbenigol i hwyluso asesiad brys a rheolaeth gychwynnol gyflym.
· Bydd clinigwyr ambiwlans yn meithrin sgiliau cymorth diwedd oes angenrheidiol i ddelio â sgyrsiau anodd, a byddant yn rhoi meddyginiaethau priodol ac yn cynorthwyo â phryderon teuluoedd/gofalwyr.
· Pan fydd pobl yn barod i adael yr Adran Argyfwng, bydd trefniadau effeithiol yn cael eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau parhad gofal gyda chyn lleied o oedi â phosibl, yn cynnwys dychwelyd adref gyda chymorth a chael eu derbyn yn brydlon i wely ysbyty pan mai dyna’r cam nesaf priodol yng ngofal yr unigolyn.
I ddarllen mwy am Nod 4 gan gynnwys y blaenoriaethau cychwynnol, sut y bydd systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cefnogi i gyflawni'r nod hwn a sut y bydd llwyddiant yn cael ei fesur, cyfeiriwch at y Llawlyfr Polisi Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng.
Arweinydd Nod 4: Rachel Taylor - ABB.SixGoalsUEC@wales.nhs.uk