Neidio i'r prif gynnwy

Nod 5: Darparu'r gofal a'r ymarfer rhyddhau gorau posibl i'r claf ar ôl iddo gael ei dderbyn i'r ysbyty


Darperir y gofal ysbyty gorau posibl i bobl sydd angen asesiad neu driniaeth tymor byr neu barhaus, cyhyd ag y bo’n ychwanegu budd at y canlyniad, gyda ffocws cryf ar ymarfer rhyddhau da.

Datganiad Ansawdd:

·         Dylai pobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty gael eu trin yn gyson ac yn ddibynadwy yn unol â disgwyliadau partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a’r sector annibynnol yng Nghymru fel y disgrifir yng Canllawiau Rhyddhau o'r Ysbyty Llywodraeth Cymru.

·       Yn achos pobl a gaiff eu derbyn i’r ysbyty mewn argyfwng:

    • Dylent gael eu hadolygu gan ymgynghorydd priodol cyn gynted â phosibl ar ôl mynd i’r ysbyty. Dylai hyn ddigwydd o fewn 14 awr fan leiaf o’r adeg y cânt eu derbyn i’r ysbyty. Pan fo angen, dylid cynnal asesiadau eiddilwch ar ôl iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty.
    • Dylent gael rhestr gyson o’u meddyginiaethau o fewn 24 awr o gael eu derbyn i’r ysbyty.
    • Dylent gael eu cynnwys yn llwyr mewn cynlluniau’n ymwneud â’u triniaeth, eu hadferiad a’u rhyddhau o’r ysbyty, ynghyd â chael eu hysbysu’n llawn ynghylch pob agwedd. Dylent gael ateb i bedwar cwestiwn allweddol yn ddyddiol: Beth sy’n bod arnaf? Beth sy’n mynd i ddigwydd imi heddiw? Pryd fyddaf yn cael mynd adref? Beth sydd angen ei wneud er mwyn imi allu mynd adref?
    • Dylent gael cynllun trosglwyddo strwythuredig ar gyfer eu gofal, lle canolbwyntir bob amser ar ddychwelyd adref cyn gynted ag y byddant yn glinigol ffit i adael.
    • Dylent gael cynllun gofal sy’n cynnwys ymyriad gweithredol er mwyn osgoi datgyflyru, hybu adferiad a chefnogi annibyniaeth drwy gydol eu harhosiad yn yr ysbyty.
    • Dylent gael mynediad at wasanaethau adsefydlu, ni waeth be fo’u cyflwr nac ym mha ward y cânt eu rhoi; dylai’r gwasanaethau hyn fod ar gael yn syth ar ôl iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty, neu cyn gynted ag y bydd yr unigolyn yn feddygol abl i gymryd rhan ynddynt er mwyn cyflymu ei adferiad a lleihau’r sgil-effeithiau.

·      Yn achos pobl eiddil ac agored i niwed, yn cynnwys pobl o bob oedran a chanddynt anableddau a phroblemau iechyd meddwl, dylid eu rheoli mewn modd pendant ond cyfannol (i gwmpasu meysydd meddygol, seicolegol, cymdeithasol a gweithredol), a dylid trosglwyddo’u gofal yn ôl i’r gymuned cyn gynted ag y byddant yn feddygol ffit i hynny ddigwydd, rhag ofn iddynt golli’r gallu i ofalu amdanynt eu hunain.

·       Ymgynghorydd yr unigolyn sy’n gyfrifol am benderfynu a yw’r unigolyn yn glinigol barod i symud ymlaen o gyfnod acíwt ei ofal, a bydd yn cytuno ar ‘feini prawf clinigol unigol ar gyfer rhyddhau’ er mwyn galluogi’r unigolyn i ddychwelyd adref hyd yn oed os na fydd yr ymgynghorydd yn bresennol.

·      Bydd pobl sy’n gymwys i gael eu rhyddhau trwy’r Gwasanaeth Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys yn cael eu cludo’n ôl a blaen mewn modd diogel, amserol a chyfforddus, heb arwain at unrhyw niwed i’w hiechyd. Cânt eu trin gydag urddas a bydd eu credoau crefyddol a diwylliannol yn cael eu parchu. Pan fydd pobl mewn ward neu adran yn yr ysbyty, bydd y Bwrdd Iechyd yn sicrhau eu bod yn barod i adael ar yr adeg yr hysbysir y darparwr cludiant ynghylch y parodrwydd i deithio.


Fferylliaeth

Mae'n hanfodol bod timau fferylliaeth yn rhan hollol integredig o dimau amlddisgyblaethol. Mae hynny’n helpu i symud llif cleifion effeithlon drwy’r ysbyty. Mae hefyd yn lleihau niwed yn gysylltiedig â meddyginiaethau a all ddigwydd wrth drosglwyddo gofal, ac yn helpu i ryddhau’r claf o’r ysbyty yn ddiogel ac yn amserol.

Gall gwasanaethau fferylliaeth helpu i sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty mewn ffordd ddiogel ac effeithlon a dylai byrddau iechyd sicrhau eu bod yn gweithredu'n llawn y canllawiau Gwneud y gorau o wasanaethau fferylliaeth wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty a gyhoeddwyd yn 2022.


I ddarllen mwy am Nod 5 gan gynnwys y blaenoriaethau cychwynnol, sut y bydd systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cefnogi i gyflawni'r nod hwn a sut y bydd llwyddiant yn cael ei fesur, cyfeiriwch at y Llawlyfr Polisi Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng.


Arweinydd Nod 5: Rachel Taylor - ABB.SixGoalsUEC@wales.nhs.uk