Ar ôl arhosiad yn yr ysbyty, bydd pobl yn dychwelyd adref – neu i’w cymuned leol gyda chymorth ychwanegol os bydd angen – cyn gynted ag y bydd hynny’n bosibl ac yn ddiogel, a hynny er mwyn gwella’u canlyniad a’u profiad ac osgoi datgyflyru.
Datganiad Ansawdd
- Yn achos pobl sydd angen cymorth ychwanegol ar ôl eu rhyddhau o’r ysbyty, dylid eu trosglwyddo o’r ysbyty a’u rhoi ar y llwybr priodol ar gyfer ‘rhyddhau i adfer ac yna asesu’ (yn ôl i’w preswylfa arferol, fel rheol), a hynny o fewn 48 awr ar ôl cwblhau’r driniaeth ar gyfer eu problem acíwt.
- Dylai timau iechyd a gofal cymdeithasol integredig ymateb mewn modd amserol er mwyn sicrhau bod systemau cymorth ar waith i ymateb i anghenion unigolion ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty. Ar ôl cwblhau’r broses adfer ac asesu, rhaid cydgysylltu’r gofal yn effeithiol er mwyn sicrhau y gellir rhoi trefniadau ar gyfer trosglwyddo i ofal pellach ar waith mewn modd amserol a di-dor.
- Mae rhaglenni ar waith er mwyn helpu pobl i feithrin yr wybodaeth, y sgiliau a’r hyder i reoli eu hiechyd corfforol a’u hiechyd meddwl, cael mynediad at y cymorth angenrheidiol, gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol a pharatoi’n well ar gyfer unrhyw ddirywiad neu argyfwng.
- Rhaid i bob claf ar wardiau iechyd meddwl neu anabledd dysgu sydd wedi bod yn yr ysbyty am fwy na 90 diwrnod fod â chynllun rhyddhau clir ar waith. Bydd gan bob claf sy’n derbyn gofal mewn gwasanaethau arbenigol y tu allan i GIG Cymru gynllun anfon adref ar waith.
I ddarllen mwy am Nod 6 gan gynnwys y blaenoriaethau cychwynnol, sut y bydd systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu cefnogi i gyflawni'r nod hwn a sut y bydd llwyddiant yn cael ei fesur, cyfeiriwch at y Llawlyfr Polisi Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng.
Arweinydd Nod 6: Luisa Bridgman - ABB.SixGoalsUEC@wales.nhs.uk