Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen

Mae Rhwydwaith Gwybodaeth Labordai Cymru (LINC) wedi bod ar waith ers Rhagfyr 2017 ac mae'n cael ei redeg gan Wasanaeth Cydweithrediad  Iechyd GIG Cymru mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ac mae'n cael ei ariannu gan fyrddau iechyd GIG Cymru, ymddiriedolaeth y GIG a Llywodraeth Cymru.

Rhaglen alluogi i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth patholeg modern a chynaliadwy yw LINC, fel rhan o gynllun trawsnewid ehangach a nodir yn Natganiad o Fwriad Patholeg. Rheolir Rhaglen LINC mewn fframwaith Prosiectau mewn Amgylcheddau a Reolir - fframwaith rheoli prosiect ffurfiol achrededig sydd hefyd yn seiliedig ar fethodoleg Rheoli Rhaglenni Llwyddiannus.

Arweinir LINC gan Adrian Thomas, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddorau Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ef hefyd yw Uwch Berchennog Cyfrifol Portffolio'r Rhaglen.  Fe'i cefnogir gan dîm rhaglen ymroddedig sy'n cael ei arwain gan Judith Bates, Cyfarwyddwr Rhaglen LINC.

Adrian sy'n cadeirio Portffolio Bwrdd Rhaglen LINC, ac mae'r aelodau yn cynrychioli pob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth sy'n rhedeg gwasanaethau Patholeg ac yn cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau proffesiynol a rheoli patholeg allweddol.  

Mae LINC wedi sefydlu fframwaith sicrwydd drwy'r Awdurdod Dylunio sy'n sicrhau bod yr holl ofynion, gwaith cynllunio, profion a gwasanaeth newydd LIMS yn addas i'r diben ac yn glinigol ddiogel.