Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan

Mae Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan yn cefnogi GIG Cymru i gyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 ac mae’n dilyn dull 'Unwaith i Gymru'.


Grŵp Staff Nyrsio Cymru Gyfan, gyda chynrychiolwyr o holl sefydliadau GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, yw’r grŵp cyflenwi ar gyfer y Rhaglen gyffredinol. Mae’r grŵp yn cefnogi cynllunio a chyflenwi rhaglen waith genedlaethol a fydd yn galluogi sefydliadau GIG Cymru i gyfrifo’r nifer priodol a chymysgedd sgiliau’r staff nyrsio sy’n angenrheidiol i ddarparu’r gofal gorau i gleifion. Mae'r Grŵp yn adrodd i fforwm y Prif Swyddog Nyrsio sy’n cynnwys Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio.

Trosglwyddwyd y rhaglen o Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i Gyfarwyddiaeth Ansawdd a Diogelwch Gweithrediaeth y GIG ar 1 Ebrill 2024 ac mae’r rhaglen waith ar gyfer Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan wedi’i hadnewyddu i adlewyrchu blaenoriaethau’r Prif Swyddog Nyrsio a’r cyfeiriad newydd a bennwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Rhagfyr 2023.

Mae rhaglen gynhwysfawr wedi’i datblygu sy’n canolbwyntio ar y canlynol:

  • Parhau i roi arweiniad a chymorth i Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG i fodloni gofynion Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) (2016) a dilyn dull ‘Unwaith i Gymru’.
  • Cwmpasu adnoddau, safonau a chanllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n llywio lefelau staffio nyrsys ar gyfer gwahanol leoliadau gofal i fod yn rhan o arfer cyfrifiad trionglog y cytunwyd arno mewn meysydd 25A (pob maes meddygol/llawfeddygol acíwt i oedolion sy’n gleifion mewnol a chleifion mewnol pediatrig)
  • Sicrhau cysondeb â gweithgorau cenedlaethol a rhaglenni gwaith.
  • Datblygu canllawiau gweithredol i sicrhau bod cyfrifiad trionglog yn cael ei gymhwyso'n gyson yn genedlaethol mewn meysydd 25A.
  • Archwilio sut y gellir defnyddio modelau gweithio a gweithlu amlbroffesiynol ar draws Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG.
  • Gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Gweithrediaeth y GIG, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i wneud y defnydd gorau o ddata’r gweithlu a chleifion i nodi tueddiadau a themâu yn y galw am wasanaethau dros amser ac i gefnogi meincnodi lleol a chenedlaethol.