Neidio i'r prif gynnwy

Ansawdd a Diogelwch

Mae ein tîm Ansawdd a Diogelwch yn trosi’r cyfeiriad polisi a’r safonau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn gamau gweithredu sy’n gwella ansawdd a diogelwch gofal iechyd yng Nghymru, gan gynnwys:

  • Cynllunio ansawdd
  • Sicrhau ansawdd
  • Rheoli ansawdd

Cefnogi Systemau Rheoli Ansawdd

Mae sefydliadau iechyd ledled y byd yn cydnabod yr angen i symud o ffocws ar fethodoleg gwella ansawdd i weithredu dull ehangach o reoli a gwella ansawdd. Yng Nghymru, mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn cynnwys dyletswydd ansawdd newydd a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2023. Mae'r ddyletswydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff iechyd yng Nghymru adrodd ar eu taith ansawdd ac fel rhan o hyn, sefydlu system rheoli ansawdd.

Mae Gwelliant Cymru wedi treulio’r pedair blynedd ddiwethaf yn ymchwilio, datblygu a phrofi dull system rheoli ansawdd sy’n galluogi sefydliad iechyd i weithredu gydag ansawdd yn greiddiol iddo ac i wella’n barhaus i ddiwallu anghenion y boblogaeth y mae’n ei gwasanaethu.

Mae Gwelliant Cymru wedi treialu’r system rheoli ansawdd mewn dau sefydliad hyd yma ac mae’n rhannu’r dull gyda’r holl sefydliadau iechyd i osod y sylfeini ar gyfer cymorth pwrpasol.