Daeth Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn gyfraith ym mis Mawrth 2016 ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff y gwasanaeth iechyd roi sylw i ddarparu lefelau staff nyrsio priodol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gan eu nyrsys yr amser i ddarparu'r gofal gorau posibl i gleifion.
Mae Cymru yn falch o fod y wlad gyntaf yn Ewrop i ddeddfu ar lefelau staff nyrsio. Mae’r Ddeddf yn grymuso nyrsys a rheolwyr wardiau â’r dystiolaeth i gefnogi a llywio eu barn broffesiynol wrth bennu lefelau staff nyrsio ar eu wardiau.
Yn unol â’r Ddeddf, mae dyletswydd ar sefydliadau GIG Cymru i ddefnyddio’r dull trionglog o gyfrifo lefelau staff nyrsio mewn wardiau meddygol/llawfeddygol acíwt i oedolion sy’n gleifion mewnol a wardiau cleifion mewnol pediatrig. Rhaid i sefydliadau hefyd gymryd pob cam rhesymol i gynnal lefelau staff nyrsio ac adrodd ar gydymffurfedd o ran cynnal lefelau staff nyrsio fel modd o roi sicrwydd i’r cyhoedd, i’r Bwrdd ac i Lywodraeth Cymru.
Mae’r Ddeddf yn cynnwys pum adran:
Yn unol â’r Ddeddf ac yn dilyn cyfnod o ymgynghori, cyhoeddwyd canllawiau statudol ym mis Tachwedd 2017 i gefnogi GIG Cymru i fodloni’r gofyniad i gyfrifo a chynnal lefelau staff nyrsio mewn ardaloedd meddygol/llawfeddygol acíwt i oedolion sy’n gleifion mewnol. Diweddarwyd y canllawiau ym mis Hydref 2021 pan estynnwyd ail ddyletswydd y Ddeddf i wardiau cleifion mewnol pediatrig.
Mae GIG Cymru hefyd wedi dyfeisio Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 - Canllawiau Statudol a Chanllawiau Gweithredol i gefnogi timau sydd wedi’i rhoi ar waith mewn byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ledled Cymru ac mae hyn yn y broses o gael ei adolygu.