Neidio i'r prif gynnwy

Ffrydiau gwaith

I ddechrau, roedd pum ffrwd waith yn bwydo i Raglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan :

  • Cleifion mewnol meddygol a llawfeddygol acíwt sy’n oedolion
  • Cleifion mewnol pediatrig
  • Cleifion mewnol iechyd meddwl (unedau derbyn ac asesu)
  • Ymwelwyr iechyd
  • Nyrsio Ardal

Roedd pob ffrwd waith yn cynnwys uwch gynrychiolwyr o bob Bwrdd Iechyd/Ymddiriedolaeth y GIG ledled Cymru. Diben y grwpiau ffrydiau gwaith hyn oedd datblygu a phrofi adnoddau cynllunio’r gweithlu ar sail tystiolaeth ar gyfer eu maes arbenigol.

Dros y 10 mlynedd ddiwethaf, gwnaed gwaith helaeth gan y grwpiau ffrydiau gwaith i ymgysylltu â miloedd o nyrsys i ddatblygu a phrofi Lefelau Gofal Cymru (adnodd aciwtedd cleifion), nodi dangosyddion ansawdd a’r ffactorau hynny y mae angen eu cymryd i ystyriaeth pan ddefnyddir barn broffesiynol. O ddefnyddio’r rhain gyda'i gilydd, gellir pennu’r nifer cywir a chymysgedd sgiliau’r staff sy’n angenrheidiol i ofalu am gleifion. Mae egwyddorion staff nyrsio interim hefyd wedi'u llunio ar gyfer meysydd Ymwelwyr Iechyd, Nyrsio Ardal a chleifion mewnol Iechyd Meddwl i gynorthwyo ac arwain y gwaith o gynllunio'r gweithlu yn y meysydd hyn.

Mae pob ffrwd waith wedi datblygu adnodd Lefelau Gofal Cymru ar gyfer eu maes arbenigedd a ddefnyddir i fesur aciwtedd a dibyniaeth cleifion. Defnyddir yr adnoddau hyn mewn Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ac mae’r data wedi bod yn amhrisiadwy wrth gynllunio’r gweithlu i gyfrifo’r nifer cywir a chymysgedd sgiliau’r staff nyrsio sy’n angenrheidiol i ddarparu gofal effeithiol i gleifion.

Gallwch weld Adnoddau Lefelau Gofal Cymru ar gyfer pob maes yma:

Diddymwyd y ffrydiau gwaith oedolion a phediatrig ym mis Ionawr 2023 gan fod y gwaith a oedd yn angenrheidiol i wreiddio Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) yn y meysydd hyn wedi dod i ben, ac mae pob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn adrodd o dan y ddeddfwriaeth. Mae ffrydiau gwaith ymwelwyr iechyd, nyrsys ardal ac iechyd meddwl wedi'u tynnu'n ôl gan fod y gwaith wedi’i drosglwyddo i fforymau cenedlaethol.