Cliciwch yma i weld y dudalen hon mewn fformat Hawdd ei Ddarllen
Daeth y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio yn gyfraith yng Nghymru ym mis Mawrth 2016 ac mae’n gosod dyletswydd ar fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau Cymru i sicrhau bod gan nyrsys ddigon o amser i ofalu am gleifion. Mae dyletswydd gyntaf y Ddeddf yn berthnasol i unrhyw leoliad y mae gofal nyrsio yn cael ei ddarparu ynddo neu ei gomisiynu ar ei gyfer. Ar hyn o bryd mae'r ail ddyletswydd ond yn berthnasol i wardiau meddygol/llawfeddygol acíwt i oedolion sy’n gleifion mewnol a wardiau cleifion mewnol pediatreig.
Nifer y staff nyrsio sy’n angenrheidiol i ddarparu gofal diogel a phriodol i gleifion.
Yn ogystal â'r staff nyrsio, efallai y byddwch yn gweld staff gofal iechyd eraill ar y ward sy'n cyflawni tasgau penodol i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal cleifion. Er enghraifft, ffisiotherapyddion neu gynorthwywyr adsefydlu.
Mae lefel staff nyrsio yn amrywio o ward i ward, yn dibynnu ar nifer y cleifion a’r math o nyrsio sydd ei angen ar gleifion. Rydym yn dod â thair ffynhonnell wybodaeth at ei gilydd, sef barn broffesiynol y nyrsys, pa mor sâl neu ddibynnol yw'r claf a diogelwch ac ansawdd y gofal a ddarperir gan bob ward.
Y Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio sy'n gyfrifol am benderfynu ar lefel staff nyrsio yn dilyn trafodaethau gyda'r tîm nyrsio sy'n gyfrifol am bob ward.
Dylid adolygu lefel staff nyrsio ar gyfer pob ward bob 6 mis; os bydd rhywbeth yn newid ar y ward (e.e. - nifer y gwelyau sy'n cael eu defnyddio); neu os yw'r tîm nyrsio o'r farn bod angen cynnal adolygiad.
Bydd y nyrs â gofal yn cynllunio rhestr ddyletswyddau staffio sydd â'r nod o sicrhau bod nifer y staff ar ddyletswydd yn adlewyrchu'r lefel ofynnol o staff nyrsio a bydd yn cysylltu â'r rheolwr nyrsio pan fydd bwlch yn y lefel staffio. O bryd i'w gilydd, efallai y bydd y rhestr ddyletswyddau arfaethedig yn cael ei newid mewn ymateb i asesiad o anghenion cleifion; byddai hyn yn seiliedig ar farn broffesiynol y tîm nyrsio.
Os oes bylchau yn y rhestr ddyletswyddau a gynlluniwyd neu os oes angen staff nyrsio ychwanegol, gellid cyflogi gweithwyr dros dro o'r banc neu asiantaeth nyrsys os oes angen cynnal y lefel staff nyrsio er mwyn sicrhau y darperir gofal diogel a phriodol.
Mae'r Lefel Staff Nyrsio ar gyfer pob ward feddygol/llawfeddygol acíwt i oedolion a phob ward bediatrig yn cael ei harddangos ar y ward ac mae taflen wybodaeth wedi'i llunio ar gyfer cleifion. Os oes gennych unrhyw gwestiynau a/neu bryderon ynghylch lefelau staff nyrsio ar y ward, gofynnwch am gael siarad â Rheolwr y Ward neu Brif Nyrs y Ward.