Bydd y rhaglen waith wedi’i hadnewyddu yn parhau i gefnogi Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf 2016, gan ganolbwyntio ar adolygu’r metrigau ar gyfer adrodd a mynd i’r afael â’r mater o natur un grŵp proffesiynol y Ddeddf yn erbyn natur nifer o grwpiau proffesiynol wrth gynllunio'r gweithlu mewn meysydd adran 25B.
Bydd gwaith yn cael ei wneud i fapio'r defnydd o adnoddau cynllunio'r gweithlu a datblygu canllawiau gweithredol i gefnogi'r defnydd o'r dull trionglog a fydd yn darparu dull mwy cyson o gynllunio'r gweithlu mewn meysydd adran 25A.
Bydd y rhaglen yn sicrhau cysondeb â rhaglenni gwaith cenedlaethol, yn cyfrannu at gyflenwi’r agenda gweithlu ehangach, ac yn gwneud y defnydd gorau posib o’r cyfoeth o ddata a gwybodaeth am y gweithlu a gasglwyd drwy’r rhaglen, i ysgogi trawsnewid y gweithlu a llywio modelu’r gweithlu ar draws GIG Cymru.
Bydd tîm craidd y rhaglen yn cydlynu ac yn galluogi i’r cynllun rhaglen wedi'i adnewyddu gael ei gyflwyno ar gyfer Rhaglen Staff Nyrsio Cymru Gyfan. Drwy’r Grŵp Staff Nyrsio Cymru Gyfan bydd cynnydd yn erbyn y cynllun cyflenwi’n cael ei fonitro a’i adrodd drwy’r fframwaith llywodraethu i’r Dirprwy Gyfarwyddwyr Nyrsio, y Cyfarwyddwyr Gweithredol Nyrsio a Swyddfa Prif Nyrs Cymru.