Neidio i'r prif gynnwy

Y dull trionglog

Mae’n ofynnol i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau gyfrifo’r nifer a chymysgedd sgiliau’r staff nyrsio sy’n angenrheidiol i fodloni anghenion cleifion drwy driongli tair ffynhonnell wybodaeth gritigol:

  • aciwtedd cleifion: amcangyfrif o faint o ofal sydd ei angen ar glaf ar sail dwyster, cymhlethdod a natur anrhagweladwy ei anghenion holistaidd. Yng Nghymru, Lefelau Gofal Cymru yw'r adnodd a ddefnyddir i gynorthwyo nyrsys i fesur aciwtedd a dibyniaeth eu cleifion.
  • dangosyddion ansawdd: mesur o’r ffactorau sy'n berthnasol i’r ddarpariaeth gofal nyrsio ac a ddefnyddir i ddangos a yw'r adran yn darparu canlyniadau da i gleifion a staff.
  • barn broffesiynol: mae'n golygu bod y nyrs yn cymhwyso ei gwybodaeth, ei sgiliau a'i phrofiad mewn ffordd sy'n cael ei llywio gan safonau proffesiynol, y gyfraith ac egwyddorion moesegol i ddatblygu penderfyniad ar y ffactorau sy'n dylanwadu ar wneud penderfyniadau clinigol mewn perthynas â diogelwch cleifion.