Neidio i'r prif gynnwy
Andrea Gray

Pennaeth Gwella Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu

Ansawdd, Diogelwch a Gwelliant, Gwelliant Cymru

andrea.gray@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Pennaeth Gwella Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu

Andrea yw Pennaeth Gwella Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu. Mae’n goruchwylio rhoi polisïau ar waith, datblygu gwasanaethau a gwella ansawdd o fewn gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu.

Mae gan Andrea gyfoeth o brofiad, ar ôl gweithio mewn rolau amrywiol o fewn gwasanaethau iechyd meddwl, ac arbenigo mewn iechyd meddwl fforensig wedi hynny ac yna arbenigo mewn rheoli gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol. Cymhwysodd Andrea fel therapydd systemig a theulu yn 2001 ac mae hefyd wedi bod yn Rheolwr Deddfwriaeth Iechyd Meddwl yn Llywodraeth Cymru.

Mae Andrea wedi ymrwymo i ddefnyddio’r dystiolaeth a’r data gorau sydd ar gael i lywio ac ysgogi gwelliannau i wasanaethau ac mae’n angerddol am roi’r hyn sy’n bwysig i ddefnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd, a gofalwyr wrth wraidd y broses o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau.