Arweinydd Datblygu Iechyd Meddwl Cymru
Andrea yw Arweinydd Datblygu Iechyd Meddwl Cymru. Mae’n goruchwylio rhoi polisïau ar waith, datblygu gwasanaethau a gwella ansawdd o fewn gwasanaethau iechyd meddwl ac anabledd dysgu.
Mae gan Andrea gyfoeth o brofiad, ar ôl gweithio mewn rolau amrywiol o fewn gwasanaethau iechyd meddwl, yn gweithio fel swyddog prawf yn Ne Cymru a Llundain, ac arbenigo mewn iechyd meddwl fforensig wedi hynny ac yna arbenigo mewn rheoli gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol. Cymhwysodd Andrea fel therapydd systemig a theulu yn 2001 ac mae hefyd wedi bod yn Rheolwr Deddfwriaeth Iechyd Meddwl yn Llywodraeth Cymru.
Mae Andrea wedi ymrwymo i ddefnyddio’r dystiolaeth a’r data gorau sydd ar gael i lywio ac ysgogi gwelliannau i wasanaethau ac mae’n angerddol am roi’r hyn sy’n bwysig i ddefnyddwyr gwasanaethau, eu teuluoedd, a gofalwyr wrth wraidd y broses o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau.