Neidio i'r prif gynnwy
Meghann Morris

Arweinydd Busnes

Gwelliant Cymru

meghann.morris@wales.nhs.uk

Amdanaf i

Arweinydd Busnes

Mae Meghann yn cefnogi’r gwaith o gyflawni strategaeth Gwelliant Cymru ochr yn ochr â’r Tîm Busnes a Phrosiectau, gan sicrhau ei bod yn cael ei chyflawni mewn modd amserol a chost-effeithiol.

Ymunodd Meghann â GIG Cymru yn 2019, gan ddod â mwy na 22 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn rolau busnes a rhaglenni yn y sector preifat a chyhoeddus yng Nghymru ac Awstralia. Roedd ei rolau blaenorol yn canolbwyntio ar drawsnewid ar raddfa fawr a datblygu rhaglenni cymhleth i gefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion strategol a chynllunio a gwella sefydliadau.

Mae gan Meghann radd Meistr mewn Rheolaeth, gydag arbenigedd mewn Rheoli Rhaglenni ac mae'n eiriolwr brwd dros ddatblygu sgiliau ar draws sefydliadau i wreiddio a chefnogi gwelliant.