Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu rhagoriaeth mewn ansawdd a gwelliant ar draws iechyd a gofal yng Nghymru. Yn ôl ar gyfer 2025, mae’r gwobrau’n parhau i arddangos y gwaith gwella ansawdd a diogelwch anhygoel sy’n trawsnewid profiadau a chanlyniadau i bobl yng Nghymru.
Dyma'ch cyfle i dynnu sylw at y gwaith gwella ansawdd yr ydych chi a'ch tîm wedi'i arwain.
Mae Gwobrau GIG Cymru 2025 yn cynnwys 12 categori, sy’n cyd-fynd â’r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023. Yn ogystal, bydd enillydd y Wobr Cyfraniad Eithriadol i Wella Gofal Iechyd yn cael ei ddewis o blith enillwyr y 12 categori.