Neidio i'r prif gynnwy

ENILLYDD - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Grŵp Partneriaeth Profiad Bywyd Covid-hir

Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisiau sefydlu Rhaglen Adferiad COVID-hir mewn ymateb i bobl sy'n profi symptomau COVID-hir. Y weledigaeth oedd darparu’r lefelau gofynnol o ofal a chymorth i gleifion a staff i fynd i’r afael ag effeithiau tymor hwy COVID-19, gan weithio ar y cyd â phartneriaid rhanbarthol a chleifion.

Mae cleifion COVID-hir wedi bod yn gweithio gyda staff clinigol i gyd-gynhyrchu’r llwybr clinigol newydd gan arwain at Raglen Hunan-reoli EPP gyntaf y DU sydd wedi’i theilwra’n benodol ar gyfer cleifion sy’n dioddef o COVID-hir. Mae'r cwrs yn helpu i rymuso cleifion i reoli eu cyflyrau iechyd hirdymor.

O'r cychwyn cyntaf, mabwysiadwyd egwyddor cyd-ddylunio gref, gan weithio'n agos gyda chleifion ac ymarferwyr clinigol i ddylunio llwybr sy'n bodloni anghenion a disgwyliadau pobl sy'n profi COVID-hir. Roedd yn rhaid i'r broses addasu'n barhaus i anghenion iechyd y grwpiau i sicrhau eu cyfranogiad gweithredol - er enghraifft: cyfarfod rhithwir, cael cyfarfodydd byrrach, anfon gwybodaeth ymlaen llaw a sicrhau nad ydynt yn cael eu gorlwytho.

Mae cleifion wedi dylanwadu ar ddatblygiad llwybr clinigol COVID-hir, gan arwain at gynnwys gwasanaethau cymorth iechyd meddwl fel rhan o’r gwasanaeth a gynigir. Mae'r argymhelliad i gynnwys proses hunanatgyfeirio yn ogystal â phroses atgyfeirio gan feddygon teulu wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda 78% o atgyfeiriadau yn hunan-atgyfeiriadau.

Mae’r adborth ar y cwrs wedi bod yn gadarnhaol – ysgrifennodd un claf at ei Feddyg Teulu yn pwysleisio y byddai’n argymell y dull hwn ar gyfer yr holl gleifion sy’n dioddef o COVID-hir “mae wedi fy helpu yn ddi-ben-draw ac rwyf bellach yn teimlo’n llawer mwy parod i barhau â’m taith i adferiad llwyr.”

Yn ogystal, mynegodd rhai cleifion a fynychodd y cwrs ddiddordeb mewn dod yn Gynrychiolwyr Profiad Bywyd COVID-hir i sicrhau bod llais y claf yn cael ei glywed trwy gydol datblygiad parhaus y gwasanaeth hwn.

 


Rachel Wright

rachel.wright@wales.nhs.uk