Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Cofnododd data mapio clwstwr Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot o 2017/2018 achosion o drais domestig o fewn 1,000m i bob practis meddyg teulu. Roedd hyn yn dangos bod trais domestig yn fater i fynd i’r afael ag ef ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Yng Nghwm Tawe yn unig roedd 18,215 o gleifion benywaidd 15 oed neu’n hŷn gyda 902 o achosion o drais domestig wedi’u cofnodi gan yr heddlu, yn ogystal ag un lladdiad domestig.
Cynhaliwyd cyfarfod gyda'r Hwb Cam-drin Domestig, y Clwstwr a chynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd. Roedd rhanddeiliaid o’r farn bod swydd sy’n mynd i'r afael â'r '3 mater allweddol' (Trais Domestig, Camddefnyddio Sylweddau ac Iechyd Meddwl) yn hanfodol. Y farn hefyd oedd y byddai gweithiwr ym maes gofal sylfaenol yn galluogi gwaith mewn partneriaeth cadarn rhwng sectorau. Dywedodd Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, o fod yn rhan o bethau, y gallai gefnogi'r gwasanaeth a sicrhau bod gan gleifion wybodaeth well am ddarpariaeth leol. Cafodd Gwasanaeth Llwybr Cwm Tawe gymeradwyaeth i fwrw ati ym mis Gorffennaf 2021 er mwyn mynd i’r afael â’r materion a wynebir gan unigolion. Mae hefyd yn darparu cymorth systemig i aelodau o'r teulu yn ôl yr angen.
Mae'r gwasanaeth yn darparu 'gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn', gan ganiatáu amser, lle a hyblygrwydd i gyd-gynhyrchu ymyraethau ystyrlon sy'n mynd i'r afael â'r anghenion lluosog nad ydynt yn cael eu diwallu a/neu'r problemau a wynebir. Rhai o nodau'r gwasanaeth yw: lleihau'r galw ar feddygon teulu, darparu gwell cymorth i gleifion gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain, gwella mynediad at ffynonellau cymorth eraill a nodi 'achosion cudd' problemau iechyd corfforol a meddyliol gwael.
Derbyniwyd 83 o atgyfeiriadau dros y cyfnod cychwynnol o 18 mis, ac roedd y cynllun peilot i bob pwrpas yn dangos gostyngiad o 60% yn y galw ar feddygon teulu yn dilyn ymyrraeth. Mae 98% o’r cleifion a gaiff eu gweld bellach yn cymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain, ac mae 98% o’r cleifion a gaiff eu gweld wedi manteisio ar ffynonellau hanfodol eraill o gymorth. Yn dilyn ymyrraeth, nodwyd 'achosion cudd' iechyd corfforol a meddyliol gwael ym mhob un o’r cleifion.