Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Mae’r nifer uchaf erioed o gleifion yn aros am ofal dewisol ledled y DU ar hyn o bryd. Roedd nifer fawr o gleifion yn Abertawe yn aros yn hwy na’r 36 wythnos a argymhellir am driniaeth ddewisol, gyda rhai yn aros hyd at chwe blynedd am golecystectomi (tynnu'r goden fustl [gall bladder]), a hynny yn rhannol o ganlyniad i'r pandemig.
Cafwyd nawdd gan gomisiwn Bevan i adolygu’r holl gleifion ar y rhestr aros ar gyfer llawdriniaeth golecystectomi laparosgopig i asesu pa mor briodol yw hi iddynt gael y llawdriniaeth hon. Roedd hyn er mwyn tynnu’r rheiny nad oes angen y driniaeth arnynt mwyach oddi ar y rhestr a rhoi’r cyfle gorau i’r rheiny â rhai syndromau eiddilwch cyn cael llawdriniaeth.
O'r cyfanswm o 750 o gleifion ar y rhestr colecystectomi, mae 256 o gleifion yn bodloni'r meini prawf dethol o fod yn 65 oed neu’n hŷn. Anfonwyd llythyron at gleifion er mwyn egluro'r prosiect a gofynnwyd iddynt gwblhau arolwg boddhad cleifion ynghylch eu profiad o fod ar y rhestr aros hyd yn hyn. Yna, cysylltwyd â nhw i drefnu ymgynghoriad dros y ffôn a chawsant eu hasesu am eiddilwch gan ddefnyddio’r sgôr eiddilwch clinigol. Cafodd cleifion â sgorau eiddilwch clinigol uchel neu ganlyniadau holiadur a oedd yn peri pryder eu gwahodd i ddod i glinig i gael Asesiad Geriatrig Cynhwysfawr gydag Ymgynghorydd Gofal yr Henoed.
Tynnwyd dros 20% o gleifion oddi ar y rhestr aros yn dilyn yr ymyrraeth, gan arwain at gostau cyfle o tua £250,000 o safbwynt amser llawfeddygol wedi’i arbed yn unig. Nid oedd yn cynnwys manteision adolygu cleifion yn uniongyrchol ac archebu profion yn ystod y clinig. Roedd mwyafrif y cleifion o’r farn bod eu hiechyd wedi gwaethygu tra’u bod ar y rhestr aros. Roedd themâu'r grŵp ffocws yn dangos bod yna lawer o rwystredigaeth a dicter tuag at aros am gyfnodau estynedig, ac roedd llawer yn teimlo eu bod wedi cael eu hanghofio. Roedd cleifion o’r un farn, er eu bod yn deall y pwysau roedd y GIG yn eu hwynebu, bod y trefniadau cyfathrebu cyn y prosiect yn wael. Roedd yr alwad ffôn yn ymyrraeth gadarnhaol gan ei bod yn teimlo fel ffordd o holi sut ydyn nhw, nid oedd yn cymryd llawer o’u hamser ac roedd yn rhoi sicrwydd iddynt eu bod ar y rhestr aros o hyd.