Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi darparu cludiant i gleifion diwedd oes ers blynyddoedd lawer. Yn 2017, cyflwynodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru y Gwasanaeth Cludo Cyflym Gofal Diwedd Oes i wella ansawdd ac amseroldeb y gwasanaeth a ddarperir. Er bod criwiau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eisoes wedi hwyluso ceisiadau anffurfiol ar gyfer y gwasanaeth ‘Wish’ yn ystod trosglwyddiadau ar gyfer Gofal Diwedd Oes, megis aros ar y daith i weld man ystyrlon, nid cynnig ffurfiol oedd y ddarpariaeth erioed.
Daeth cysyniad ‘The Wish Ambulance’ yn fyw diolch i sgwrs rhwng meddyg a chlaf. Dywedodd y claf, yn ystod dyddiau olaf ei fywyd, wrth y meddyg ei fod yn dymuno y gallai fod wedi ymweld â'i hoff draeth gyda'i deulu am y tro olaf. Fe wnaeth holi a allai'r Gwasanaeth Cludo Cyflym gefnogi'r cais hwn. Cytunwyd y byddai Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn hwyluso'r cais gan ddefnyddio cerbyd sbâr a chriw fyddai’n rhoi o’u hamser yn wirfoddol. Yn dilyn y profiad hwn, bu cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cydweithio â staff o Wasanaeth Gofal Lliniarol Cymru i archwilio datblygiad gwasanaeth 'The Wish Ambulance'.
Penderfynwyd mai'r ateb mwyaf priodol i'r gwaith cynllunio oedd recriwtio cronfa o wirfoddolwyr yn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a fyddai'n helpu i hwyluso teithiau pan nad oeddent ar ddyletswydd. Cytunodd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru y gellid defnyddio cerbyd sbâr, ac y byddai costau cysylltiedig tanwydd a nwyddau traul yn cael eu talu gan yr Ymddiriedolaeth. Cafodd teithiau peilot pellach eu hwyluso, gan helpu i sefydlu sut y gallai'r gwasanaeth redeg yn effeithiol ac yn ddiogel. Cafodd ymgyrch recriwtio fewnol ei chyflwyno i gasglu enwau gwirfoddolwyr ledled Cymru, a llwyddodd yr ymgyrch i ddenu nifer fawr o wirfoddolwyr.
Er nad yw'r gwasanaeth yn gofyn am adborth yn fater o drefn gan y sawl sy’n defnyddio’r gwasanaeth, oherwydd materion sensitifrwydd amlwg, mae teuluoedd a gofalwyr yn aml yn rhoi adborth ar ba mor gadarnhaol oedd y gwasanaeth ‘Wish’ i bawb. Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi rhannu’r cynllun â gwasanaethau ambiwlans ar draws y Deyrnas Unedig, gyda’r nod o weld gwasanaeth ‘The Wish Ambulance’ yn datblygu ac yn tyfu ledled y DU.