Neidio i'r prif gynnwy

ENILLYDD - Y Bartneriaeth Gweithgaredd Anabledd Iechyd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr


Yn ôl ymchwil o 2018, mae 23% o oedolion anabl a 47% o blant anabl yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol deirgwaith neu fwy yr wythnos. Mae hyn yn dangos darlun ymgysylltu cadarnhaol, ond mae hefyd yn golygu NAD yw cyfran fawr o oedolion a phlant anabl yn gwneud digon o weithgarwch corfforol i gael effaith gadarnhaol ar eu hiechyd. Mae cyfle sylweddol i bobl anabl gymryd rhan mewn clybiau a sesiynau yng Nghymru, ond mae gwella ymwybyddiaeth o gyfleoedd, cefnogi cymhelliant i’w mynychu a meithrin hyder yn parhau i greu bwlch cydraddoldeb ym maes chwaraeon ac ym maes iechyd.

Sefydlwyd cynllun peilot gan y Bartneriaeth Gweithgaredd Anabledd Iechyd i archwilio sut y gallai 'chwaraeon' Anabledd ac Iechyd weithio gyda'i gilydd i gefnogi pobl anabl yn well i wella eu lefelau gweithgarwch corfforol. Gan weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid, aeth y Bartneriaeth Gweithgaredd Anabledd Iechyd ati i geisio datblygu model partneriaeth cryf a llwybr presgripsiynu cymdeithasol llwyddiannus. Prif nodau canolog y prosiect oedd cynyddu nifer y bobl anabl sy’n gorfforol egnïol ledled Cymru, creu partneriaeth gadarn rhwng Byrddau Iechyd a thimau Datblygu Chwaraeon Awdurdodau Lleol, darparu Llwybr Cenedlaethol sy’n cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gyfeirio pobl anabl at gyfleoedd gweithgarwch corfforol yn eu cymunedau, a lleihau’r gofyn ymhlith pobl anabl am ymyrraeth feddygol o ganlyniad i afiechyd sy'n gysylltiedig ag anweithgarwch corfforol.

Fe wnaeth y cynllun peilot bara tair blynedd, gan arwain at Lwybr wedi’i baratoi ar y cyd a sesiwn uwchsgilio wedi’i chynllunio. Cafodd sgiliau 1190 o weithwyr iechyd proffesiynol eu huwchsgilio, a chafodd 560 o bobl anabl eu cyfeirio. Nododd Dadansoddiad Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi bod £124 o adenillion cymdeithasol yn cael eu gwireddu am bob £1 o fuddsoddiad. Ochr yn ochr â’r canlyniadau ehangach, cafodd pedwar athletwr dawnus eu nodi ac aethant ymlaen i gystadlu dros Gymru.

Nawr bod y bartneriaeth a’r llwybr wedi’u sefydlu’n genedlaethol, y cynllun yw parhau i ddarparu sesiynau uwchsgilio ar draws pob Bwrdd Iechyd, a gweithio tuag at ymwreiddio’r Bartneriaeth Gweithgaredd Anabledd Iechyd yn rhan o arfer bob dydd.