Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Nododd y Tîm Therapi Galwedigaethol yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Gogledd Sir Fynwy nifer uchel o unigolion â gwybodaeth faeth a sgiliau coginio gwael; nid oedd rhai erioed wedi coginio iddynt hwy eu hunain, neu prin yr oeddent wedi coginio. Nid oedd rhai unigolion erioed wedi dysgu sut i goginio ac nid oedd ganddynt yr wybodaeth na'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnynt. I eraill, roedd y broses yn drech na nhw ac yn peri pryder iddynt, ac yn aml nid oedd ganddynt hunan-barch neu hyder, neu nid oedd digon o amser na chymhelliant gyda nhw, i goginio. I rai, yr her oedd diffyg addysg ynghylch dewisiadau prydau iach/afiach, yn enwedig os oedd cyllid yn peri pryder.
Canlyniad cynllunio ar y cyd â Therapyddion Galwedigaethol a'r tîm Addysg oedd cytuno ar brotocol grŵp. Roedd y protocol hwn yn nodi’r amcanion, y broses, trefnau rheoli risg a dulliau gwerthuso ar gyfer hwyluso grŵp coginio (o rywiau cymysg) i wella cyfranogiad galwedigaethol unigolion. Cytunwyd mai chwe wythnos fyddai hyd y cwrs, ond gallai unigolion barhau i ddilyn y cwrs wedi hynny pe bai angen clinigol a digon o le ar y cwrs. Ar ôl cwblhau'r cwrs byddai'r rhai sy’n mynychu yn cael achrediad Agored.
Darparodd Coleg Gwent safle a rhai cyfleusterau, a dechreuwyd cynnal y grwpiau coginio. Mae'r defnyddwyr gwasanaeth yn cytuno ymysg ei gilydd ar y fwydlen i’w pharatoi yr wythnos ganlynol ac yn prynu eu cynhwysion eu hunain. Os yw unigolion yn profi heriau yn hyn o beth, mae'r Tîm Therapi Galwedigaethol yn gweithio gyda nhw, gan ddefnyddio dull graddedig, nes eu bod yn gallu siopa'n annibynnol. Ar ôl coginio'r pryd, mae unigolion yn cael y cyfle i fwyta gyda'i gilydd, gan wella’u hyder yn gymdeithasol. Mae rhai cyfranogwyr yn swp-goginio prydau y gallent yna’u rhewi, neu’n coginio digon i fynd adref gyda nhw ar gyfer eu teulu.
Roedd adborth o brofiadau unigolion yn dangos bod eu hyder wedi gwella, eu bod yn llai pryderus a’u bod yn teimlo eu bod yn cyflawni mwy o gymryd rhan mewn grŵp. Mae’r grŵp bellach wedi bod yn rhedeg yn llwyddiannus ers dros dair blynedd, gyda dros 100 o leoedd wedi’u hwyluso hyd yma. Mae wedi arwain at ddefnydd cynyddol o adnoddau cymunedol ac ymgysylltiad defnyddwyr gwasanaeth mewn dosbarthiadau addysgol.