Neidio i'r prif gynnwy

Dull APPLE o leihau thrombosis a gafwyd yn yr ysbyty y gellir ei atal

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr


Yn hanesyddol, mae cydymffurfedd o ran cwblhau'r asesiad risg thromboproffylacsis wedi bod yn wael mewn ysbytai ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda sawl digwyddiad o bresgripsiynau ar gyfer thromboproffylacsis yn anghywir ac o ddosiau wedi'u methu. Ar y cyd â’r nifer fawr o Thrombosis a Gafwyd yn yr Ysbyty (HAT) a nifer y marwolaethau y gellir eu hatal o Thrombo-Emboledd Gwythiennol (VTE) ledled y DU, penderfynodd Llywodraeth Cymru fod Thromboproffylacsis yn flaenoriaeth Haen 1, sydd bellach yn rhan o Gronfa Risg Cymru.

Er mwyn cyflawni’r argymhellion wedi’u gosod gan Gronfa Risg Cymru, cynhaliwyd cyfarfod adolygu gyda nyrsys thromboproffylacsis, arweinwyr clinigol, fferyllwyr, cadeirydd grŵp HAT a rhanddeiliaid. Roedd hyn yn caniatáu i syniadau gael eu trafod er mwyn newid arferion ac er mwyn i nodau CAMPUS/SMART gael eu gosod. Diffiniad y prif nod oedd 'Cynyddu'r cydymffurfedd o ran cwblhau'r offeryn asesu risg thromboproffylacsis ar adeg derbyn claf 30% erbyn Ionawr 2023'.

Cytunwyd mai cynnwys cysyniad APPLE yn y cylchdro thromboproffylacsis oedd yr opsiwn gorau ar gyfer yr ymyrraeth. Mae cysyniad APPLE yn ddull tîm amlddisgyblaethol sy'n canolbwyntio ar asesu (offeryn asesu risg Thrombo-emboledd Gwythiennol [VTE]), ôl derbyn (ymgynghorwyr i adolygu thromboproffylacsis ar y rownd ar ôl derbyn), gwiriad gan y fferyllfa (fferyllwyr i wirio a yw’r presgripsiwn ar gyfer thromboproffylacsis yn gywir), taflen (nyrs i roi gwybodaeth am VTE yn ysgrifenedig ac ar lafar ar adeg derbyn claf), ac addysg (yr holl staff i gael eu haddysgu am bwysigrwydd thromboproffylacsis a VTE). Yn y Saesneg, ystyr APPLE yw ‘Assessment’, ‘Post take’, ‘Pharmacy’, ‘Leaflet’ ac ‘Education’. Mae'r dull hwn yn galluogi adrannau i gymryd perchnogaeth dros eu perfformiad ac yn creu diwylliant sy'n canolbwyntio ar gynyddu diogelwch cleifion.

Trwy gyfres o gylchoedd Cynllunio-Gwneud-Astudio-Gweithredu, cafodd y broses, y gwaith asesu a’r gwaith casglu archwiliadau eu mireinio a’u rhoi ar waith ar draws y bwrdd iechyd, gyda nod y prosiect a’r nod ymestyn yn cael eu cyflawni. Dangosodd data gan 1000 o gleifion fod y presgripsiwn yn gywir 97% o'r amser pan fo’r asesiad risg wedi cael ei gwblhau. Fodd bynnag, os na chafodd yr asesiad risg ei gwblhau, roedd y presgripsiwn dim ond yn gywir 65% o'r amser. Yn archwiliad Ionawr 2023, llwyddwyd i sicrhau cydymffurfedd llawn.