Neidio i'r prif gynnwy

ENILLYDD - Newid Diwylliant yn y Gweithle ac Ymwneud Amlddisgyblaethol â Risg a Llywodraethu Clinigol Mamolaeth a Newyddenedigol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda


Dangosodd arolygon staff gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol a Choleg Brenhinol y Bydwragedd fod diffyg diogelwch seicolegol yn niwylliant y gweithle a bod ymdeimlad o ofn ynghylch y broses llywodraethu clinigol. Ac yntau’n awyddus i alluogi newid, aeth Tîm Obstetreg a Gynaecoleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ati i ddechrau prosiect gwella ansawdd i wella cyfraddau adrodd am ddigwyddiadau ac annog ymgysylltiad amlddisgyblaethol â dysgu a myfyrio ar draws gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.

Cydgynhyrchodd y tîm raglen gynaliadwy a oedd yn canolbwyntio ar ddysgu systemau ac a oedd yn cynnwys y defnydd o offer hyfforddi rhyngweithiol ac arloesol i alluogi ymwreiddio themâu a thueddiadau allweddol, heb ganolbwyntio ar roi bai ar yr unigolion sydd wedi darparu gofal. Cydgynhyrchodd tîm amlddisgyblaethol o staff bydwreigiaeth, obstetreg a phediatrig fframwaith Risg a Llywodraethu newydd er mwyn ymrwymo i ddiwylliant o ddysgu systemau gyda’r nod o gynyddu cyfathrebu a chydweithio a chreu amgylchedd o ddiogelwch seicolegol. Ochr yn ochr â hyn, mae Pecyn Cymorth Uwchgyfeirio Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd wedi’i roi ar waith i alluogi staff i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi i uwchgyfeirio pryderon clinigol a manteisio ar y cyfle i “ddysgu neu drin” i ddatrys gwrthdaro.

Yn dilyn y newidiadau hyn yn niwylliant y gweithle, nododd adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ym mis Tachwedd 2022 y canfuwyd bod gan yr uned “[d]diwylliant cadarnhaol o ran rhoi gwybod am ddigwyddiadau a dysgu gwersi ohonynt.” Canfu'r adolygwyr hefyd fod "gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud ers ein harolygiad diwethaf yn 2019". Bu cynnydd o 34% mewn achosion o adrodd am ddigwyddiadau clinigol, sy’n dangos bod staff yn teimlo’n ddiogel i nodi ac adrodd am ddigwyddiadau y maent yn ymwneud â nhw er mwyn meithrin gwybodaeth ehangach.

Mae'r diogelwch seicolegol a diwylliant y gweithle gwell wedi galluogi staff i weithio'n fwy cydweithredol a theimlo eu bod yn fwy parod i allu uwchgyfeirio. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau clinigol gyda gostyngiad sylweddol a pharhaus yn nifer y babanod sy'n cael eu geni y mae angen eu dadebru. Bu hefyd llai a llai o achosion o farw-enedigaethau.