Neidio i'r prif gynnwy

ENILLYDD - Cydweithrediad rhwng Rhwydwaith Canser Cymru a holl Fyrddau Iechyd Cymru: Dull partneriaeth i sefydlu Clinigau Diagnosis Cyflym (RDCs) ledled Cymru

Rhwydwaith Canser Cymru


Ar gyfer Gofal Sylfaenol, mae natur symptomau yn hollbwysig o safbwynt dylanwadu ar benderfyniadau ar lwybr cleifion i gael eu hatgyfeirio ac amseroedd aros cysylltiedig am ymyraethau diagnostig a thriniaeth. Nid yw hanner y cleifion â chanser ym maes practis cyffredinol yn y DU yn ymgyflwyno â phrif symptomau ac nid ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer atgyfeiriadau brys lle'r amheuir canser. Yn seiliedig ar enghreifftiau rhyngwladol o ganlyniadau a phrofiad gwell i gleifion ar gyfer y grŵp agored i niwed hwn, sefydlwyd rhaglen y Clinigau Diagnosis Cyflym (RDC) yn 2021 i gefnogi’r gwaith o roi’r RDCs ar waith ac i bennu’r targed uchelgeisiol y byddai holl Fyrddau Iechyd Cymru yn gallu manteisio ar RDC erbyn diwedd mis Mawrth 2023.

Cyn cyflwyno RDCs, byddai meddyg teulu yn trefnu cyfres o ymchwiliadau diagnostig a fyddai heb eu cydlynu yn aml neu byddai'n dewis maes arbenigedd i gyfeirio ato, na fyddai efallai wedi bod yn briodol ar gyfer y diagnosis yn y pen draw. Mewn rhai achosion, byddai atgyfeiriadau’n cael eu hisraddio gan arwain at oedi, gwasanaethau heb eu cydlynu, ymchwiliadau dro ar ôl tro a chleifion yn cael eu trosglwyddo o un tîm amlddisgyblaeth i’r llall, gan arwain at oedi mewn diagnosis a chanlyniadau a phrofiad gwael i gleifion.

Yn dilyn llwyddiant Cynlluniau Peilot Cymru, cymeradwyodd y Bwrdd Rhwydwaith Canser ariannu a sefydlu Rhaglen RDC genedlaethol. Gan weithio gyda chydweithwyr ar draws GIG Cymru, gan gynnwys Byrddau Iechyd, Gwelliant Cymru, Cynghrair Canser Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Llywodraeth Cymru, cleifion, academyddion, a rhaglenni cenedlaethol eraill (e.e. Delweddu), roedd modd i wasanaeth Rhwydwaith Canser Cymru weithredu model RDC a gafodd ei yrru’n genedlaethol a’i ddarparu’n lleol.

Y dull cydweithredol hwn oedd sylfaen y rhaglen a bu’n fodd i gyd-ddylunio llwybr Delfrydol Cenedlaethol, Manyleb Gwasanaeth, ac arolwg cenedlaethol o brofiad cleifion, gan sicrhau bod y model RDC yn deg ac yn hygyrch i boblogaeth Cymru. Mae data rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023 yn dangos bod y model gwasanaeth yn sicrhau diagnosis personol, cywir, a chyflym o symptomau cleifion. Mae integreiddio darpariaeth ddiagnostig gyda thîm amlddisgyblaethol rhwydweithiol wedi rhoi’r modd i gael diagnosis cynharach a rheoli’r driniaeth wedi hynny, gan hyrwyddo canlyniadau a phrofiad gwell i gleifion.