Neidio i'r prif gynnwy

Gwella gofal cleifion drwy drawsnewid mynediad at ddata cleifion sydd wedi cael trawsblaniad aren ledled Cymru: Gweithredu dangosfwrdd digidol data byw ar y cyd.

Gwasanaeth Gwaed Cymru


Mae Labordy Trawsblannu Cymru, sy’n rhan o Wasanaeth Gwaed Cymru, yn cadw cofnodion ar gyfer tua 250 o gleifion o dde, gorllewin a chanolbarth Cymru sydd ar restr aros y DU i gael trawsblaniad aren – y ‘Gofrestr Trawsblaniadau’. Dosberthir y data hollbwysig hwn i dros 80 o 'ddefnyddwyr gwasanaeth' y labordy: ysbytai, canolfannau dialysis ac unigolion ledled Cymru, sy'n gweithio mewn partneriaeth i ofalu am drawsblaniadau ar gyfer cleifion Cymru, a’u hwyluso.

Yn flaenorol, tynnwyd y data hwn o systemau TG y labordy a'i ddosbarthu'n fisol. Roedd angen copi papur o'r Gofrestr Trawsblaniadau yn y labordy hefyd, gan nad oedd modd gweld yr holl ddata perthnasol ar yr un pryd yn system TG y labordy. Cynigiwyd datrysiad digidol gyntaf yn 2021, a sefydlwyd prosiect ym mis Ionawr 2022 i ddatblygu dangosfwrdd trawsblannu digidol. Y bwriad oedd gwella mynediad at wybodaeth am gleifion sy'n aros i gael trawsblaniad aren a chyfrannu at ddarparu gofal a phrofiad cleifion o ansawdd uchel.

Ffurfiwyd grŵp prosiect cydweithredol gyda chynrychiolwyr o Labordy Trawsblannu Cymru, Tîm Digidol Gwasanaeth Gwaed Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a thîm rhagoriaeth Microsoft 365. Cyfrannodd defnyddwyr mewnol ac allanol y Gofrestr, gan gynnwys Gwyddonwyr, Neffrolegwyr, Llawfeddygon, Cydlynwyr Trawsblannu a staff Nyrsio o sawl Bwrdd Iechyd, at ddylunio a gweithredu’r dangosfwrdd.

Defnyddir y Dangosfwrdd Trawsblannu yn fater o drefn ers mis Rhagfyr 2022 ac mae wedi cael ei ganmol gan staff a defnyddwyr gwasanaeth am fod yn hawdd i gael mynediad at ddata i helpu i ddarparu gofal diogel ac effeithlon i gleifion. Mae'r dangosfwrdd yn caniatáu i ddata cyfredol fod ar gael ar unwaith, gan roi trosolwg mwy cywir i gefnogi gwneud penderfyniadau, a dileu'r gofyniad am ddosbarthu dogfen PDF/papur. Mae hefyd yn rhyngweithiol iawn, gan ganiatáu i ddata gael ei chwilio neu ei hidlo'n gyflym, sy'n hanfodol yn y broses gymhleth, pan fo amser mor dyngedfennol, o nodi claf cydnaws pan fydd aren ar gael i'w thrawsblannu.