Neidio i'r prif gynnwy

Profion Imiwnocemegol ar Ysgarthion (FIT) ym maes gofal sylfaenol – dull arloesol o brofi'n ddiogel ac yn effeithiol, ac o wella gofal cleifion

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda


Cafodd pandemig Covid-19 effaith andwyol ar lwybrau canser y colon a’r rhefr, gydag amseroedd aros hir ar gyfer ymchwiliadau ac oedi wrth wneud diagnosis ac wrth roi triniaeth. Canlyniad cynllun peilot Profion Imiwnocemegol ar Ysgarthion (FIT) ym maes gofal eilaidd yn ystod y pandemig oedd gostyngiad o 23% mewn atgyfeiriadau endosgopi o’u cymharu â’r lefelau cyn y pandemig. Cynigiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ddatblygu llwybr FIT diogel ac effeithiol ym maes gofal sylfaenol, er mwyn ystyried arfer gorau a thystiolaeth glinigol. Yn gefn i’r fenter hon oedd sefydlu 'Canolfan FIT' bwrpasol i reoli'r profion fel y gellid blaenoriaethu a rheoli'r rhai yr ystyrir eu bod mewn risg uchel o ganser y colon a'r rhefr mewn modd amserol, diogel ac effeithiol.

Roedd datblygu’r llwybr FIT yn cynnwys cydweithio rhwng rhanddeiliaid lluosog, gan gynnwys uwch gynrychiolwyr clinigol o faes gofal sylfaenol ac eilaidd, timau gwasanaeth perthnasol, a chymorth gan gydweithwyr Cydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Yn ystod cyfarfodydd rheolaidd â rhanddeiliaid, trafodwyd egwyddorion Llwybr FIT diogel ym maes gofal sylfaenol, gan fynd i’r afael â rhwystrau a sicrhau nad oedd cleifion yr amheuir bod ganddynt ganser yn profi unrhyw oedi o ran atgyfeiriadau oherwydd y prawf. Cafodd llythyron at gleifion yn nodi eu canlyniad FIT eu paratoi ar y cyd â'r tîm profiad cleifion a'u haddasu yn unol ag adborth gan gleifion, er mwyn sicrhau eu bod yn briodol ac yn eglur.

Roedd mewnbwn gan gydweithwyr yn hanfodol er mwyn galluogi'r atgyfeiriadau i gael eu rheoli'n llwyddiannus trwy Borth Cyfathrebu Clinigol Cymru, gan leihau'r angen am hyfforddiant ychwanegol i feddygon teulu. Cafodd trefnau cyfathrebu gofal sylfaenol effeithiol eu sefydlu, gan gynnwys gweminarau ar gyfer meddygon teulu yn cyflwyno'r llwybr newydd.

O ganlyniad i lwyddiant datblygu a gweithredu’r llwybr FIT ym maes gofal sylfaenol, cafodd y llwybr ei gyflwyno ar draws y Bwrdd Iechyd ym mis Ebrill 2023. Mae sicrhau bod FIT yn hygyrch ym maes gofal sylfaenol, trwy’r Hwb FIT, wedi symleiddio'r llwybr atgyfeirio ar gyfer cleifion yr amheuir bod ganddynt ganser y colon a'r rhefr. Defnyddir adnoddau'n fwy effeithiol, mae amseroedd aros wedi lleihau ac mae cleifion ar y Llwybr Canser Sengl yn cael ymchwiliadau amserol gyda chyn lleied o oedi â phosibl.