Neidio i'r prif gynnwy

ENILLYDD - Addasu Cardbord at Ddibenion Gwahanol: partneriaeth beilot rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac ELITE Paper Solutions

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg


Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynhyrchu dros 2,000 tunnell o wastraff bob blwyddyn. Mae llawer o'r gwastraff hwn yn cael ei ailgylchu, ond mae swm sylweddol yn cael ei losgi neu ei anfon i safleoedd tirlenwi.

Cynigiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf addasu cardbord y GIG yn wasarn anifeiliaid anwes ar safle peilot – Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant. Cysylltodd Adran Rheoli Gwastraff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ag amrywiaeth o randdeiliaid i fynd i’r afael â’r mater, gan gynnwys rheolwyr a staff yn ELITE Paper Solutions. Mae ELITE Paper Solutions yn fenter gymdeithasol leol sy’n cefnogi 70 aelod o staff a gwirfoddolwyr difreintiedig ac/neu anabl i gael hyfforddiant a gwaith yn yr ardal leol. Mae ei swyddfa ym Merthyr Tudful, de Cymru.

Trwy gyfres o gylchoedd Cynllunio-Gwneud-Astudio-Gweithredu, rhoddwyd proses ar waith ble mae’r fenter gymdeithasol ELITE yn derbyn contract i gasglu biniau gwastraff cyfrinachol Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a'u cludo mewn fan i'r uned brosesu. Ar yr un pryd, byddai cardbord yn cael ei gasglu, ei gludo, ei rwygo a'i roi mewn byrnau. Mae Adran Cŵn a Marchogaeth Heddlu De Cymru yn prynu byrnau ar gyfer gwelyau ceffylau. Mae'r cardbord yn fioddiraddadwy o’i ddefnyddio am hyd at wyth wythnos.

Er mwyn cynyddu faint o gardbord a gaiff ei gasglu yn y safle peilot, cafodd sgyrsiau anffurfiol eu cynnal gyda phorthorion a staff. Cysylltwyd â Thîm Cyfathrebu Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gydag erthyglau wedi’u paratoi ar gyfer y cylchlythyr staff, Sharepoint a Facebook.

Trwy’r bartneriaeth unigryw hon, mae’r enillion ariannol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf wedi’u hystyried, yn ogystal â’r budd cymdeithasol – gan gynnwys yr ôl troed carbon is. Mae cyfrifiadau gan ddefnyddio hafaliad “sylfaen driphlyg” Canolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy y DU yn awgrymu gostyngiad sylweddol yn yr ôl troed carbon blynyddol o 502.02 kgCO2e bob blwyddyn, ac arbedion ariannol blynyddol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf o £1550.

Mae cynlluniau i ehangu’r gwaith ar draws y sefydliad – gan gyrraedd safleoedd mawr, fel ysbytai cyffredinol, a safleoedd bach, fel meddygfeydd teulu.