Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Mae amryw o resymau pam y mae cleifion yn mynd i adrannau achosion brys a lleoliadau gofal brys yn aml. Argyfwng cymdeithasol sydd yn aml yn gyfrifol am gleifion yn mynd yno dro ar ôl tro gan ei fod yn gysylltiedig â materion iechyd meddwl/llesiant, camddefnyddio sylweddau, tai, ynysigrwydd/unigrwydd cymdeithasol a cham-drin domestig. Mae achosion ychwanegol o gleifion yn mynd yno dro ar ôl tro yn cynnwys gwaeledd/cyflyrau acíwt/cronig, rheoli iechyd mewn modd gwael, eiddilwch a chwympo ymhlith yr henoed, a symptomau nad oes modd eu hesbonio’n feddygol.
Mae Defnyddwyr Gwasanaeth Effaith Uchel yn cyfrannu at y galw ar draws gwasanaethau iechyd. Bydd gan fwyafrif y grŵp cleifion hwn sawl cyswllt â’r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau brys eraill, ynghyd â gwasanaethau statudol ac anstatudol. Fodd bynnag, nid oedd fawr ddim cydgysylltu neu gyfathrebu rhwng gwasanaethau, os o gwbl, a’r canlyniad oedd nad oedd y defnyddiwr yn cael ei gefnogi gan y gwasanaeth cywir ar yr adeg gywir. Er mwyn cefnogi a rheoli cleifion yn effeithiol mae angen ymagwedd amlddisgyblaethol/asiantaeth lawn.
Roedd y swydd Rheolwr Achosion Mynychwyr Aml yn un newydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn 2019. Y cwmpas cychwynnol oedd rheoli achosion cleifion a oedd yn mynd i'r adran achosion brys yn aml ac ystyried sut y gellid lleihau nifer yr ymweliadau. Fodd bynnag, nododd adolygiad beirniadol o'r gwasanaeth ac anghenion defnyddwyr gwasanaeth nad oedd rheoli achosion yn unig yn ddigon i ddiwallu anghenion gwasanaethau brys a gofal brys.
Defnyddiwyd model yn seiliedig ar Rwydwaith Mynychwyr Aml Adran Achosion Brys Cymru o gynnal cyfarfod panel amlasiantaethol bob mis i drafod cleifion sy’n mynd i’r Adran Achosion Brys bedair gwaith mewn pedair wythnos. Y canlyniad oedd datblygu Gwasanaeth Effaith Uchel i ddarparu gofal mwy diogel, lleihau nifer yr ymweliadau a nifer yr ymchwiliadau anaddas, a sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld gan y gwasanaeth cywir ar yr adeg gywir.
Mae'r gwasanaeth wedi dangos tystiolaeth o lwyddiant o ran lleihau nifer yr achosion o gleifion ag anghenion cymhleth yn mynd i’r ysbyty, gwaith amlasiantaeth rhagorol a chanlyniadau gwell i gleifion a staff. Dangoswyd bod y gwasanaeth yn gwella ansawdd a diogelwch profiad cleifion yn sylweddol.