Neidio i'r prif gynnwy

Sefydlu clinig Gofal Amdriniaethol i Bobl Hŷn sy'n Cael Llawdriniaeth (POPS) mewn llawfeddygaeth gyffredinol ddewisol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro


Mae niferoedd cynyddol o gleifion hŷn yn cael llawdriniaeth o ganlyniad i boblogaeth sy’n heneiddio a datblygiadau mewn technegau llawfeddygol ac anesthetig. Mae cleifion hŷn sy’n byw gydag eiddilwch mewn mwy o berygl o gael canlyniadau amdriniaethol anffafriol, ac mae hyn yn arbennig o wir ers y pandemig, gan fod llawer wedi dadgyflyru tra’u bod yn aros am lawdriniaeth wedi’i chynllunio. Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn datgan bod y grŵp cleifion hwn yn elwa o Asesiad Geriatrig Cynhwysfawr - asesiad cyfannol sy'n ystyried iechyd corfforol, iechyd seicolegol, statws swyddogaethol ac amgylchiadau cymdeithasol, er mwyn llywio cynllun triniaeth unigol.

Roedd gwasanaeth POPS eisoes ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, gyda'r gallu i ddarparu Asesiad Geriatrig Cynhwysfawr ym maes llawfeddygaeth gyffredinol frys yn unig. Roedd y tîm eisiau darparu cydraddoldeb i gleifion sy’n cael llawdriniaeth ddewisol, a dechreuodd chwilio am gyfleoedd ariannu allanol i lansio cynllun peilot gwasanaeth POPS dewisol.

Datblygwyd llwybr eiddilwch yn nodi meini prawf atgyfeirio a dull atgyfeirio. Roedd hyn yn cynnwys cydweithio â chydweithwyr yn y GIG a’r trydydd sector (Gofal a Thrwsio – i alluogi addasiadau i’r cartref cyn llawdriniaeth). Cafodd profformas asesu, templedi llythyron a chronfa ddata cleifion eu creu er mwyn sicrhau y caiff asesiadau, dogfennaeth a dulliau cipio data eu safoni. Darparwyd hyfforddiant ar asesu a sgrinio eiddilwch i staff nyrsio Clinig Asesu Cyn Llawdriniaeth (POAC) trwy sesiynau tiwtorial mewn grwpiau bach a’u cyfeirio at adnoddau ar-lein.

Mae sgrinio eiddilwch bellach yn rhan o’r asesiad POAC safonol ar gyfer pob claf 65 oed neu’n hŷn, a chynigir darpariaeth Asesiad Geriatrig Cynhwysfawr i gleifion sy’n byw gydag eiddilwch ac sy’n cael llawdriniaeth gyffredinol. Wrth i'r prosiect fynd yn ei flaen roedd yna gapasiti i ehangu i arbenigeddau llawfeddygol eraill. Mae cydymffurfiaeth Gwneud Penderfyniadau ar y Cyd wedi gwella o 12% i 94%, gyda 16% o gleifion yn dewis peidio â bwrw ymlaen â llawdriniaeth o ganlyniad i drafodaethau mewn perthynas â Gwneud Penderfyniadau ar y Cyd â’r tîm POPS. Mae hyn felly’n rhyddhau costau cyfle, a hefyd yn rhyddhau lleoedd ar y rhestr aros, ar gyfer y rheiny sy’n bwrw ymlaen â llawdriniaeth.