Neidio i'r prif gynnwy

ENILLYDD - Ailgynllunio Gwasanaeth Methiant y Galon, Gwasanaeth Swyddogaeth y Galon Bae Abertawe – Ddim yn Derbyn Methiant

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


Mae methiant y galon yn digwydd yng ngham olaf pob clefyd cardiofasgwlaidd ac yn effeithio ar tua 1% i 2% o'r boblogaeth. Nodweddion methiant y galon yw cyfnodau o symptomau cronig, yn ogystal â digolledu acíwt, gan arwain at gadw hylif cynyddol a diffyg anadl acíwt. Yn aml, mae’n arwain at dderbyniadau hir i'r ysbyty. Y gred yw bod rheoli methiant y galon yn cyfrif am 2% o gyllideb y GIG ac mae 70% o’r cyllid hwnnw’n berthnasol i dderbyniadau i'r ysbyty.

Sefydlodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe brosiect gyda'r nod o ailgynllunio a datblygu ei wasanaeth methiant y galon cyfan a rhoi gwasanaeth modern, ymatebol a chwbl integredig ar waith. Datblygwyd Grŵp Ailgynllunio Clinigol, wedi’i reoli gan y Tîm Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth, gyda chynrychiolaeth o glinigwyr a thimau rheoli gwasanaethau a chyllid o unedau darparu gofal sylfaenol, gofal yn y gymuned a gofal mewn ysbytai.

Cafodd llwybr lefel uchel ei baratoi, gan ddisgrifio sut olwg oedd ar “Gofal Da”, a nodwyd pedair agwedd hanfodol mewn perthynas â gwasanaeth methiant y galon: Llwybr Diagnostig, Tîm Arbenigol Methiant y Galon yn y Gymuned, methiant y galon cleifion mewnol, a rheoli afiechydon cronig mewn Gofal Sylfaenol. Trwy gyfres o gylchoedd Cynllunio-Gwneud-Astudio-Gweithredu, sefydlwyd canolfan methiant y galon yn Ysbyty Cymunedol Gorseinon, a oedd yn darparu clinig diagnostig methiant y galon bob dydd, tra bod y gwasanaeth methiant y galon yn y gymuned yn annog gweithio integredig rhwng ysbytai a thimau yn y gymuned.

Mae'r Llwybr Diagnostig yn cynnig clinig diagnostig methiant y galon mynediad cyflym, gan ddefnyddio prawf gwaed NTproBNP yn ffordd o reoli a brysbennu asesiad brys. Amcangyfrifwyd bod defnyddio NTproBNP wedi atal 505 o atgyfeiriadau amhriodol, 201 o apwyntiadau cleifion allanol diangen a 408 o ecocardiogramau. Cyflwynwyd y model gwasanaeth newydd ym mis Mawrth 2020 ac mae’r manteision i’w gweld yn dilyn asesiad yn y clinig diagnostig o ganlyniad i drosglwyddo gofal ar unwaith i’r tîm yn y gymuned sy’n darparu addysg i gleifion, gan ganiatáu hunanreoli a’r driniaeth feddygol orau. Mae amseroedd aros ar gyfer y cleifion risg uchaf wedi gostwng yn sylweddol o fwy na 180 diwrnod i 19.4 diwrnod.