Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Hyd arhosiad cyfartalog yn yr adran feddygaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar gyfer pobl dros 75 oed yn 2021 oedd 24.2 diwrnod, ac roedd amser aros hir am wely claf mewnol yn yr unedau brys ac asesu. Ar ôl cael eu derbyn, roedd cleifion hŷn yn aml yn cael eu symud o un ward i’r llall, a dim ond 46% o bobl dros 75 oed oedd yn gadael yr ysbyty ar ôl aros yn y ward gyntaf iddynt gael ei derbyn iddi. Roedd 23% wedi symud wardiau deirgwaith neu fwy yn 2021.
Nododd y Tîm Ymyrraeth Eiddilwch ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fod angen ehangu’u model osgoi derbyniadau llwyddiannus ymhellach ar draws y llwybr acíwt. Lluniwyd achos busnes gan ddefnyddio dull gofal iechyd seiliedig ar werth, gan arwain at gyllid sylweddol ar gyfer deuddeg sesiwn ychwanegol gydag Ymgynghorydd Gofal yr Henoed. Y canlyniad oedd agor ‘Parth Eiddilwch’ gyda deuddeg gwely ym mis Tachwedd 2022, yn unol ag ôl troed presennol yr uned asesu, gan ganiatáu i’r model “eiddilwch wrth y drws blaen” presennol gael ei ehangu’n wasanaeth eiddilwch gwell sy’n cwmpasu ôl-troed meddygaeth frys ac acíwt i gyd.
Newidiwyd y pum sesiwn bresennol gydag Ymgynghorydd Gofal yr Henoed, a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer osgoi derbyniadau, yn wasanaeth eiddilwch 'mewngymorth’ ar gyfer gweddill yr adran. Roedd hyn yn cynnwys y gwasanaeth arbenigol ar gyfer adalw cleifion hŷn. Roedd hyn yn caniatáu i’r Tîm Ymyrraeth Eiddilwch presennol, sy’n wasanaeth osgoi derbyniadau, gael ei arwain gan nyrsys a therapyddion. Roedd hyn felly wedi lleihau dyblygu diangen ac ehangu cyrhaeddiad y tîm eiddilwch ar draws grŵp cleifion llawer ehangach.
Bu cynnydd o 36% yn nifer y cleifion 75 oed neu’n hŷn oedd wedi’u rhyddhau’n uniongyrchol o uned asesu ers gweithredu’r llwybr eiddilwch gwell rhwng Rhagfyr 2022 a Mawrth 2023. Mae hyd arhosiad cymedrig ar gyfer pobl dros 75 oed yn yr adran feddygaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru wedi lleihau 2.4 diwrnod, sy’n cyfateb i 3113 o ddiwrnodau gwely wedi’u harbed. Ers rhoi’r rhaglen ar waith, bu cynnydd o 24% yng nghyfran y cleifion 75 oed neu’n hŷn nad ydynt wedi cael eu trosglwyddo i ward arall ar ôl cael eu derbyn o uned asesu.