Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Yn 2021/22 roedd cyfanswm o 76 o archwiliadau wedi’u cynllunio ar draws yr holl safonau sy’n berthnasol i Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Fodd bynnag, dim ond 53 o'r archwiliadau hyn a gynhaliwyd. Un o'r prif resymau am hyn oedd bod dim digon o staff hyfforddedig a bod diffyg gallu i gynnal nifer yr archwiliadau a gynlluniwyd i gwmpasu'r holl safonau.
Er mwyn lleihau lefel llwyth gwaith ychwanegol cydweithwyr a lleihau straen sy’n gysylltiedig â gwaith ar draws y sefydliad, nodwyd dau welliant: hyfforddi mwy o staff ar sut i gynnal archwiliadau mewnol a sefydlu dull archwilio mewnol sy’n seiliedig ar risg, gan ganolbwyntio adnoddau ar feysydd a phrosesau risg uwch.
Recriwtiwyd Rheolwr Gwella Ansawdd i gefnogi darpariaeth a sefydlwyd amserlen archwilio mewnol yn seiliedig ar risg. Roedd hyn yn cynnwys cwblhau ymarfer dadansoddi croes-gymalau ar gyfer y safonau mae’r sefydliad wedi'i ardystio iddynt, neu’r safonau mae’n gweithio tuag atynt i sicrhau bod pob agwedd yn cael sylw, ond gyda'r nod o ddileu achosion o ymdrechion sy’n ailadrodd neu’n dyblygu. Ochr yn ochr â hyn, datblygwyd rhaglen hyfforddi Archwilio Mewnol a oedd ar gael i’r holl staff ar draws y sefydliad. Y nod yw darparu gwaelodlin o wybodaeth archwilio a sicrhau ansawdd i bob aelod o staff, ni waeth beth yw eu rôl, eu swydd, neu eu profiad blaenorol.
Nododd y rhaglen archwilio ar sail risg 25 o archwiliadau ar gyfer 2022/23, gyda tharged i gynnal o leiaf dau archwiliad yn seiliedig ar risg bob mis. Cynyddodd hyfforddiant Archwilio Mewnol y gronfa o archwilwyr mewnol o 24 i 51.
Mae'r newid i'r rhaglen archwilio wedi arwain at ostyngiad o 67% yn nifer yr archwiliadau mewnol a gynhelir ar draws y sefydliad. Mae llesiant gweithwyr wedi gwella trwy gynyddu'r gronfa o archwilwyr mewnol sydd wedi'u hyfforddi'n addas, gan leihau’r baich gwaith blaenorol ar arweinwyr safonol. Mae gwelliannau eraill yn cynnwys morâl, cymhelliant a boddhad swydd staff trwy ganiatáu i'r rhai sydd â diddordeb mewn archwilio ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad newydd neu wella eu sgiliau presennol.