Neidio i'r prif gynnwy

ENILLYDD☆ - Gwella ein Hymchwiliadau Gweithwyr

Cyfraniad Eithriadol i Drawsnewid Iechyd a Gofal 

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan


Roedd Tîm Adnoddau Dynol (AD) Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cynnal adolygiad o ymchwiliadau gweithwyr dros gyfnod o 15 mis. Ni arweiniodd 78 o'r 109 o ymchwiliadau camymddwyn at weithwyr yn cael eu diswyddo a gellid bod wedi mynd i'r afael â nhw drwy brosesau mwy trugarog tuag at y gweithwyr. Nododd yr adolygiad hefyd mai hyd cyfartalog ymchwiliad oedd 156 diwrnod. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd gweithwyr yn wynebu’r posibilrwydd o gael eu diswyddo, a oedd yn cael effaith sylweddol arnynt ar lefel bersonol a phroffesiynol, yn ogystal â’u teuluoedd a’u timau.

Lansiwyd prosiect gyda'r nod o haneru nifer yr ymchwiliadau gweithwyr a gaiff eu cynnal. Roedd y prosiect yn cydnabod y niwed posibl y gall ymchwiliadau gweithwyr ei achosi i'r rhai sy'n mynd trwy'r broses a'r rhai sy'n chwarae rhan yn y gwaith o’u cyflawni – yn ogystal â'r effaith ar ddiwylliant, enw da a chyllid y sefydliad. Roedd yr adolygiad AD a’r asesiad effaith yn cefnogi’r angen am newid – gan dynnu sylw at y ffaith, fel sefydliad, bod niwed anfwriadol diangen yn cael ei achosi i weithwyr.

Datblygodd y prosiect nifer o ymyraethau, gan gynnwys adolygu a diweddaru dogfen asesiad cychwynnol yr ymchwiliad, a datblygu a chyflwyno rhaglen hyfforddi ‘Ymchwiliadau Gweithwyr: Gofalu am y broses a'r bobl’. Trwy gyfres o gylchoedd Cynllunio-Gwneud-Astudio-Gweithredu, cafodd y ddogfen asesu gychwynnol ei hail-lunio i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei hystyried ar ddechrau’r broses yn hytrach na’i gohirio tan wrandawiad disgyblu ar ddiwedd y broses. Cynhaliwyd diwrnod hyfforddi peilot i brofi’n fwy eang y cysyniad o niwed y gellid ei osgoi i weithwyr, y dull tosturiol o gynnal ymchwiliadau a’r dull newydd o wneud penderfyniadau a rheoli. Yna cyflwynwyd hyfforddiant ar-lein i'r fforwm partneriaeth a chynhaliwyd diwrnod hyfforddi pellach, gan dargedu isadrannau nad oedd llawer o’u gweithwyr wedi manteisio ar yr hyfforddiant o'r blaen.

Mae dadansoddiad o ddata rhwng Ionawr 2018 a Mehefin 2023 wedi dangos gostyngiad o bron i 67% o ran ymchwiliadau gweithwyr wedi’u comisiynu