Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu Llwybr Cymorth Trawma i Staff y GIG

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


Mae gweithwyr gofal iechyd rheng flaen yn dod i gysylltiad yn rheolaidd â digwyddiadau a allai fod yn drawmatig yn seicolegol fel bygythiadau, trais, marwolaethau a hunanladdiad. Mae nifer cynyddol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ag iechyd meddwl gwael, sy’n arwain at gyfraddau salwch cynyddol. Gan hynny, roedd yn hanfodol archwilio rôl llwybr systemig, wedi'i dargedu, sy'n canolbwyntio ar drawma i gefnogi'r gweithlu, gan leihau cyfraddau absenoldeb salwch a chostau dilynol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Datblygwyd cynlluniau, felly, i sefydlu tîm rheoli/gweithredu trawma i gefnogi atal ac ymyrraeth gynnar.

Datblygwyd achos busnes i gyfiawnhau buddsoddi mewn tîm trawma, recriwtio cydlynydd trawma staff, nodi darparwr hyfforddiant a datblygu rhaglen dreigl o hyfforddiant a chymorth. Unwaith y dechreuodd yr Arweinydd trawma yn ei swydd, sefydlwyd grŵp llywio gyda rhanddeiliaid ehangach gan gynnwys y Tîm Caplaniaeth, y Gwasanaeth Gofal ar ôl Marwolaeth a chydweithwyr o Brifysgol Abertawe a roddodd gyngor ac arweiniad ar werthuso. Datblygwyd perthnasoedd â Straen Trawmatig Cymru sy’n darparu cyfeiriad strategol cenedlaethol i Lywodraeth Cymru.

Darparodd y darparwr hyfforddiant wedi’i gaffael, 'March on Stress', hyfforddiant Rheoli Risg Trawma (TRiM) a hyfforddiant 'hyfforddi'r hyfforddwr' REACT i dri aelod o staff yn y lle cyntaf er mwyn galluogi TRiM i gael ei ddarparu i 24 aelod o staff rheng flaen a REACT i gael ei ddarparu i 1000 aelod o staff rheng flaen, a hynny i ddechrau. Y nod oedd gwerthuso'r garfan gychwynnol hon i lywio cynllunio ar gyfer y dyfodol. Darparwyd cyfres o sesiynau REACT rhithwir awr o hyd er mwyn i staff ddeall trawma, nodi’i effaith, cefnogi cydweithwyr a gwybod at bwy a sut i atgyfeirio am gymorth pellach.

Dangosodd dadansoddiad o ddata gwerthuso cychwynnol REACT a TRiM fod TRiM wedi cefnogi saith digwyddiad a allai fod yn drawmatig yn y sefydliad, tra bod 59% o ymatebwyr wedi defnyddio hyfforddiant REACT o fewn y mis cyntaf o gael eu hyfforddi. Dangosodd gwerthusiad ehangach o'r gwasanaeth fod 70% o'r staff oedd yn y gwaith o hyd yn dweud bod y gwasanaeth wedi eu helpu i aros yn y gwaith, tra bod 82% o'r rhai a oedd yn absennol wedi nodi bod y gwasanaeth wedi eu helpu i ddychwelyd i'r gwaith yn gynt.