Neidio i'r prif gynnwy

Lleisiau dros newid - rhedeg fforwm cleifion mewn ysbyty cleifion mewnol sydd ag anableddau dysgu i alluogi cyd-gynhyrchu o ran gofal

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe


Mae modelau cydgynhyrchu fel arfer yn cael eu disgrifio a’u cyfryngu gan ddulliau cyfnewid geiriol, gyda’r rhan fwyaf o strwythurau cyfarfod yn dibynnu ar gyfnewid iaith lafar. Fodd bynnag, mae gan bobl ag anableddau dysgu wahaniaethau yn eu sgiliau a’u galluoedd iaith a gwybyddol sydd angen cymorth ychwanegol, addasiadau ac amgylcheddau cyfathrebu cynhwysol.

Mae’r gwasanaeth a ddarperir yn Hafod y Wennol yn uned cleifion mewnol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu sydd â hanes fforensig, sydd wedi bod mewn ysbytai y tu allan i’r ardal yn hirdymor yn flaenorol. Roedd awydd i ddarparu mwy o gyfleoedd i gleifion a staff gydweithio i ddatblygu syniadau ar gyfer gwella gofal. Trwy hwyluso Fforwm Cleifion, y gobaith oedd datblygu llwyfan i gleifion fynegi eu barn mewn modd a fyddai'n eu galluogi i gyfrannu mwy at eu gofal eu hunain. Ffactor allweddol oedd sicrhau bod cleifion yn cymryd rhan yn ogystal â defnyddio cyfraniadau pawb i ddylanwadu ar beth sy’n digwydd a sut mae pethau'n digwydd yn yr uned.

Trefnodd y rheolwr nyrsio ar gyfer y gwasanaeth gyfarfodydd gyda'r therapydd iaith a lleferydd, therapydd galwedigaethol, cydlynydd gweithgareddau a nyrsys i drafod syniadau ar beth a sut i roi cyfarfod cyntaf y fforwm cleifion ar brawf. Cytunwyd ar gymorth cyfathrebu craidd, a oedd yn cynnwys iaith hawdd a dulliau cyfathrebu cynhwysol, strwythur cofnodion cyfarfodydd hygyrch, y defnydd o ffotograffau i helpu i ddangos a deall yr hyn oedd yn cael ei drafod, a defnyddio symbolau i helpu i egluro iaith a chynorthwyo â chanolbwyntio a sylw.

Sylwyd bod cleifion yn ei chael hi'n anodd talu sylw wrth fynd trwy gamau gweithredu wedi'u cefnogi gan symbolau o gyfarfodydd blaenorol, felly newidiwyd y rhain i ddull “Dywedoch chi, fe wnaethom ni” yn seiliedig ar ffotograffau heb fawr o iaith ysgrifenedig. Yna sylwyd ar ymgysylltiad gwell yn ystod y rhan hon o'r cyfarfod a chynnydd yn hyder cleifion wrth gyfrannu’n weithredol. Mae defnyddio offer cyfathrebu gweledol a chynhwysol wedi galluogi cleifion i ddeall y cyfarfodydd yn well ac wedi rhoi’r gallu iddynt gefnogi eu penderfyniadau a’u mynegiant.