Neidio i'r prif gynnwy

ENILLYDD - Cydgynhyrchu i gefnogi gwasanaethau niwroddatblygiadol yng Ngwent

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan


Mae’r gwasanaeth niwroddatblygiadol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Ngwent wedi derbyn nifer cynyddol o atgyfeiriadau yn gofyn am ystyried asesiad niwroddatblygiadol. O ganlyniad i hyn, mae rhestr aros hir am asesiad. Mae wedi dod yn fwyfwy pwysig deall anghenion a barn rhieni/gofalwyr sydd â phlentyn ar y rhestr aros niwroddatblygiadol o ran sut y gallent helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i wella'r gwasanaeth. Roedd hefyd angen grymuso rhieni/gofalwyr tra'u bod yn aros i'w plentyn gael ei asesu ac, felly, roedd angen dull seiliedig ar gryfderau.

Sefydlwyd grŵp ym mis Mawrth 2022, gyda’r Arweinydd Trawsnewid Plant a Theuluoedd yn gweithredu fel y sianel rhwng rhieni/gofalwyr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Lleisiau Rhieni Cymru a’r bartneriaeth ehangach. Roedd hyn yn sicrhau tegwch o fewn y grŵp ac yn meithrin y ddolen adborth. Ers iddo ddechrau, mae'r grŵp wedi tyfu ac esblygu o ran ei swyddogaethau a hefyd o ran effeithlonrwydd.

Mae adborth gan y grŵp wedi arwain at nifer o newidiadau o fewn y llwybr niwroddatblygiadol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys: ailgynllunio’r llwybr atgyfeirio a’i hygyrchedd, cwblhau dogfen ‘Cwestiynau Cyffredin’ ynghylch y broses bresennol ar gyfer rhieni/gofalwyr eraill i'w helpu i ddeall y broses, taflen wybodaeth wedi'i hailgynllunio i deuluoedd sy'n ymuno â'r llwybr, a chreu animeiddiad mewn perthynas â’r llwybr wedi'i dargedu'n benodol ar gyfer plant sy'n ymuno â'r llwybr niwroddatblygiadol i egluro beth i'w ddisgwyl mewn ffordd sy'n gyfeillgar i blant.

Dros y 14 mis diwethaf, mae’r grŵp wedi bod yn tyfu o nerth i nerth. Mae'r rhieni/gofalwyr yn cadeirio'r grŵp ac yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr ym maes iechyd i ddatblygu gwasanaethau a rhoi newid ar waith. Mae rhieni bellach yn cynnal grwpiau i gefnogi rhieni eraill sydd mewn sefyllfa debyg, a chynhelir digwyddiadau rheolaidd i adolygu cynnydd a monitro canlyniadau.