Ym mis Mawrth 2024, fe wnaethom lansio Gwobrau GIG Cymru 2024 gyda 12 categori newydd sbon, sy’n cyd-fynd â’r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023. Mae Gwobrau GIG Cymru yn arddangos y gwaith gwella ansawdd a diogelwch anhygoel sydd wedi trawsnewid profiadau a chanlyniadau pobl yng Nghymru.