Neidio i'r prif gynnwy

At a Loss: Cefnogi pobl sydd mewn angen oherwydd profedigaeth a cholled

Rachel Heycock, Rheolwr Gwella Ansawdd Timau Amlddisgyblaeth, Wendy Evans, Caplan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Cyflwyniad

Yn 2021 rhyddhaodd Llywodraeth Cymru Fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal mewn profedigaeth i 'sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd da ar gael i'r rhai sydd eu hangen.' Nid yw rhai pobl sy'n profi profedigaeth wedi gallu cael y cymorth cywir ar yr adeg iawn; nid oedd unrhyw wasanaeth cymorth yn cael ei ddarparu ar gyfer colled a phrofedigaeth o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg (BICTM).

Y nod oedd cyflwyno o leiaf dau wasanaeth cymorth colled a phrofedigaeth i ardal CTM.


Dulliau

  • Cyhaliwyd gweithdy rhithwir i ddeall yr angen a chael syniad o faint fyddai’n cymryd rhan mewn caffi At a Loss. 
  • Cynigiwyd gweithdy wyneb yn wyneb wythnosol mewn canolfan gymunedol dros gyfnod o 6 wythnos, gydag adborth yn dangos bod angen cefnogaeth wythnosol barhaus. 
  • Ehangwyd i ail leoliad ar ôl arddangos y gweithdy yn nigwyddiad y Rhwydwaith Arweinwyr Cymunedol, oedd yn golygu bod angen hyfforddiant ac adnoddau ar gyfer hwyluswyr. Datblygwyd hyn gan y Caplan, a chafwyd cefnogaeth ar gyfer gwelliannau. 
  • Sefydlwyd fformat strwythuredig ar gyfer y gweithdai gyda chynnwys ac amser penodol ar gyfer rhannu a chynnal gweithgareddau creadigol, gan sicrhau bod y prif amcan yn cael ei gyflawni. 
  • Aethpwyd ati i’w hybu a dweud wrth fwy o bobl amdano drwy arweinwyr cymunedol a sianeli cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd Iechyd. Arweiniodd hyn at drefnu trydydd lleoliad gan un o fynychwyr hyfforddedig y gweithdy cyntaf.  

Canlyniadau

"Mae'n rhywle lle galla i fod yn fi fy hun yn llwyr am ddwy awr yn yr wythnos".

Ar hyn o bryd mae caffi At a Loss yn weithredol mewn 3 lleoliad gyda digwyddiadau wythnosol yn cael eu cynnal ym mhob un.  
Mae presenoldeb yn amrywio o 4 i 20 o bobl. 

Mae 17 o hwyluswyr ar gael ar hyn o bryd i gynnal caffi a chesglir adborth parhaus i addasu'r hyfforddiant a gynigir.


Dysgeidiaeth

Roedd yr heriau'n cynnwys yr angen am leoliadau penodol ac adnoddau hyfforddi, ac fe gymerodd amser i ddatblygu hyn heb amser prosiect neilltuol. Roedd cysylltu’n gynnar gyda thimau cyfathrebu ar draws CTM a chymunedau yn ddefnyddiol a gellid fod wedi gwneud defnydd o hyn ynghynt. 

Gwersi a ddysgwyd: 

  1. Roedd angen perchnogaeth gymunedol ar weithdai. 
  2. Roedd adnoddau hyfforddi yn hanfodol ar gyfer hwyluswyr posibl. 
  3. Roedd rheolau sylfaenol yn bwysig ar gyfer amgylchedd diogel, strwythuredig. 
  4. Roedd cefnogaeth yr uwch weithrediaeth yn allweddol.

Beth nesaf?

Y nod yw lledaenu ac addasu’r prosiect i gynulleidfa ehangach, tynnu sylw at ei lwyddiannau a gweld sut y gellir bwrw ymlaen â hyn ar draws y bwrdd iechyd. 


Cysylltiadau

rachel.h.heycock@wales.nhs.uk

Wendy.Evans8@wales.nhs.uk