Neidio i'r prif gynnwy

Ehangu Gofal Cefnogol i gyflyrau di-ganser

Clea Atkinson, Ymgynghorydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Cyflwyniad

Yng Nghymru, mae 33,000 o bobl yn marw bob blwyddyn, 75% o gyflyrau nad ydynt yn ganser, gyda 43% o'r holl farwolaethau mewn ysbytai. Mae methiant datblygedig mewn organau yn achosi trallod tebyg i ganser metastatig, gan arwain at dderbyniadau rheolaidd i'r ysbyty ac ymyriadau sylweddol y gellir eu hosgoi.

Er bod gofal lliniarol yn gwella canlyniadau, dim ond 20% sy'n derbyn Gofal Lliniarol Arbenigol oherwydd anghydraddoldeb mynediad.  Nod gwasanaeth Gofal Cefnogol (SC) Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ar gyfer cleifion methiant y galon i ddechrau, yw mynd i'r afael â’r rhwystrau sy’n stopio pobl rhag cael eu hatgyfeirio at ofal lliniarol, gwella profiad y cleifion a lleihau amser yn yr ysbyty cyn diwedd oes. Ac rydym am ehangu i dri chyflwr datblygedig pellach. 


Dulliau

  • Aethpwyd ati i ennill ymddiriedaeth uwch glinigwyr a nyrsys arbenigol o dimau clefyd yr afu, clefyd arennol a chlefyd interstitaidd datblygedig yr ysgyfaint a sicrhau ymrwymiad trwy rannu data am fethiant y galon. 
  • Cytunwyd ar feini prawf atgyfeirio a sefydlwyd timau amlddisgyblaeth cyd-arbenigedd ar gyfer trafodaethau ar y cyd am atgyfeiriadau, categoreiddio ar frys a gwneud penderfyniadau sy'n canolbwyntio ar y claf. 
  • Datblygwyd clinigau sy'n canolbwyntio ar gleifion er mwyn defnyddio adnoddau yn effeithlon a chael mwy o fewnbwn aml-broffesiynol, gan addasu slotiau clinig i fod hwylus i’r cleifion a chyflwyno slotiau 'clinig poeth' ar gyfer materion brys. 
  • Cynhaliwyd arolwg gyda staff atgyfeirio ar ôl naw mis a newid y timau amlddisgyblaeth i fodel hybrid er mwyn gwella presenoldeb, a dechreuwyd rhannu enghreifftiau o straeon cleifion. 
  • Ymgysylltwyd â thimau cyllid a Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth BIPCAF er mwyn cynnal gwerthusiad cyson o’r effaith ar dderbyniadau a dyddiau gwely, gan wella ein dulliau gwerthuso data i wahaniaethu rhwng derbyniadau sy'n gysylltiedig â chlefydau a derbyniadau heb eu trefnu. 

Canlyniadau

Cafodd 205 o gleifion di-ganser eu cyfeirio at Ofal Cefnogol dros 18 mis heb unrhyw effaith ar gyfraddau atgyfeirio i wasanaethau gofal lliniarol arferol. 

Roedd 96% o atgyfeirwyr yn teimlo bod y dull Gofal Cefnogol yn goresgyn y rhwystrau arferol i gael gofal lliniarol. 
Dangosodd mesurau profiad a adroddir gan glaf (PREM) foddhad uchel: 

  • Byddai 100% yn argymell y gwasanaeth i rywun arall 
  • Roedd 100% yn teimlo bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu gyda chydymdeimlad 
  • Roedd 94% yn teimlo eu bod yn rhan o’r broses gwneud penderfyniadau 
  • Adroddodd 72% bod ansawdd bywyd wedi gwella 

Mesurau canlyniad a adroddir gan glaf (PROM) - gwerthuswyd 36 o gleifion clinig gyda 53% yn nodi gwelliannau yn eu safbwyntiau iechyd. 

Roedd cymharu’r amser a dreuliwyd yn yr ysbyty yn ystod blwyddyn olaf bywyd yn dangos gostyngiad i gleifion Gofal Cefnogol o’i gymharu â’r grŵp rheoli, gyda 1,211 yn llai o ddyddiau ysbyty dros 18 mis er gwaetha’r ffaith bod y clefyd yn gwaethygu. 


Beth nesaf?

  • Creu llenyddiaeth ddwyieithog ar gyfer y gwasanaeth i hwyluso ymgynghoriadau a gwneud penderfyniadau yn Gymraeg.  
  • Mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd bellach yn arwain grwpiau addysg ar gyfer cleifion a gofalwyr. 
  • Symud tuag at offer PROM digidol i symleiddio gwerthusiadau.  
  • Modelu llwybrau clefydau nad ydynt yn ganser ac archwilio dulliau newydd o osgoi derbyniadau i’r ysbyty. 

Cysylltiadau

clea.atkinson2@wales.nhs.uk