Neidio i'r prif gynnwy

Ffyn hud ar gyfer annog pobl i reoli eu hiechyd a'u lles eu hunain

Owen Hughes, Pennaeth Gwasanaeth Byw'n Dda Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Cyflwyniad

Fel llawer o wasanaethau eraill sy'n gweithio gyda phobl sydd â chyflyrau hirdymor, roedd y Gwasanaeth Byw'n Dda o fewn Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn profi cyfradd uchel o ddiffyg presenoldeb mewn apwyntiadau (12-15%) a phobl oedd wedi cael eu hatgyfeirio ddim yn ymgysylltu â'r gwasanaeth (30%).

Nod y prosiect oedd lleihau nifer y bobl a oedd yn methu apwyntiadau dros gyfnod o ddwy flynedd a gwella bodlonrwydd/canlyniada’r  defnyddwyr.


Dulliau

Mewn cydweithrediad â Thîm Q Lab y Sefydliad Iechyd, gwnaethom edrych ar y gwasanaeth a thaith y person drwy'r gwasanaeth, gan ddefnyddio'r technegau canlynol: 

  • Mapio prosesau 
  • Mapio teithiau defnyddwyr y gwasanaeth gan gynnwys ymatebion emosiynol ar wahanol gamau’r llwybr 
  • Datblygu persona ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth nodweddiadol ac annodweddiadol 
  • Sefydlu 'panel profiad' o bobl a oedd wedi dod i gysylltiad â'r gwasanaeth sy'n barod i gymryd rhan yn y broses o ddatblygu gwasanaethau a rhoi adborth 
  • Dysgu am newid ymddygiad a sut i lywio ymddygiad defnyddwyr gwasanaeth. 

Mewn ymateb i'r ymarfer mapio prosesau a'r adborth a gafwyd gan ddefnyddwyr gwasanaethau, fe wnaethom rannu cam ymgysylltu'r gwasanaeth fel a ganlyn:-

  1. Ymateb i atgyfeiriad 
  2. Datblygu sgiliau digidol (ar gyfer staff a dinasyddion) 
  3. Casglu gwybodaeth a rhoi gwybodaeth 
  4. Ymgynghoriad cychwynnol 
  5. Adborth ar ôl ymgynghoriad 

Canlyniadau

  • Mae'r gwasanaeth wedi dod yn ddigidol yn bennaf gyda 90% o’r cysylltiadau yn digwydd trwy dechnolegau digidol. 
  • Gwell boddhad gan ddefnyddwyr gwasanaeth gyda thros 95% o bobl bellach yn teimlo eu bod yn rhan o'r penderfyniadau am eu gofal. 
  • Mynediad cyflymach i wybodaeth a chefnogaeth. 
  • Y gyfradd 'Ddim yn bresennol’ wedi gostwng a bellach o dan 5%. 
  • Llai o amser aros, o 16 i 10 wythnos. 
  • Gwell diogelwch a mwy o foddhad ymhlith staff. 
  • Gostyngiad o ran effaith a chost amgylcheddol. 
  • Gwell hygyrchedd. 
  • Diffyg ymgysylltu wedi gostwng i 20%. 

Dysgu

  • Y gwerth sydd i ddefnyddio methodolegau Gwella Ansawdd a methodolegau rheoli prosiectau Ystwyth. 
  • Pwysigrwydd ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau yn y broses newid. 
  • Pwysigrwydd cefnogi pobl (staff a defnyddwyr gwasanaethau) wrth gyflwyno ffyrdd newydd o weithio. 
  • Defnyddioldeb defnyddio’r llenyddiaeth ar newid ymddygiad / mewnwelediadau ymddygiadol. 

Beth nesaf?

Mae'r cylchoedd gwelliant parhaus yn parhau. Rydyn ni’n casglu adborth gan staff a defnyddwyr gwasanaethau i nodi ffyrdd o wella ansawdd y gwasanaeth a ddarparwn. 


Cysylltiadau

owen.hughes@wales.nhs.uk