Mae galwadau iechyd meddwl yn cyfrif am tua 10% o lwyth gwaith Ambiwlans Cymru (WAST). Maent yn aml yn gofyn am fwy o amser ac yn arwain at gludo cleifion i Adrannau Brys, lle maent fel arfer yn aros am bum awr am gymorth a dwywaith yn fwy tebygol o aros dros 12 awr o'i gymharu â'r cyhoedd yn gyffredinol.
Gan gydnabod nad yw Adrannau Brys yn ddelfrydol ar gyfer cleifion sy’n dioddef gofid meddyliol, cyflwynodd WAST ymarferwyr iechyd meddwl mewn canolfannau galwadau yn 2022 ar gyfer brysbennu o bell. Trwy gynllun peilot Cerbyd Ymateb Iechyd Meddwl (MHRV) y nod oedd lleihau'r baich ar adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac ambiwlansys drwy drin 75% yn y fan a’r lle o fewn 2 fis.
Cyflwynwyd achos busnes ar gyfer cerbyd peilot MHRV i fwrdd gweithredol WAST, mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) i gynnal cynllun peilot dros gyfnod pwysau’r gaeaf yn eu hardal. Gan ddefnyddio model newid Kotter, roedd y trafodaethau cychwynnol yn dangos data a thystiolaeth o ranbarthau eraill i ennyn cefnogaeth rhanddeiliol gan WAST a BIPAB. Sefydlwyd cyfarfodydd wythnosol rheolaidd i drafod cynlluniau, mynd i'r afael â rhwystrau, a sicrhau cynnydd.
Defnyddiwyd egwyddorion ‘Cynllunio Gwneud Astudio Gweithredu’ ar gyfer sefydlu'r peilot. I ddechrau, gwnaethom archwilio gwahanol opsiynau trafnidiaeth, gan ddewis defnyddio car gan WAST yn y diwedd. Roedd diffinio llwybr iechyd meddwl yn cynnwys nifer o drafodaethau i sicrhau atgyfeiriadau priodol i gleifion. Roedd staffio'n heriol; tra bod BIPAB angen ei staff ei hun i ddechrau, defnyddiodd WAST ei ymarferwyr iechyd meddwl ei hun ar drefniant goramser a shifftiau banc. Roedd y dull hwn yn defnyddio staff profiadol ond nid oedd yn gynaliadwy yn y tymor hir oherwydd pwysau ychwanegol ar staff.
Mae achos busnes yn cael ei ysgrifennu i ehangu, profi a chyflwyno Cerbyd Ymateb Iechyd Meddwl ymhellach ledled Cymru. Rydyn ni hefyd yn bwriadu cyhoeddi ein canfyddiadau.