Jonathan Jones, Ysgrifennydd Corfforaethol Cynorthwyol, Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Cyflwyniad
Mae rheoli poen i gleifion trawma yn hanfodol ar gyfer ansawdd y gofal a phrofiad y claf. Mae oedi wrth leddfu poen yn y gymuned, yn enwedig ar gyfer anafiadau fel torri clun, yn peri gofid i gleifion ac ymatebwyr fel ei gilydd.
Ar hyn o bryd nid yw Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol (CFR), sy'n ymdrin â thros 10,000 o alwadau brys bob blwyddyn, yn gallu rhoi analgesia, gan gyfyngu ar eu gallu i leddfu poen. Byddai cyflwyno analgesia mewnanadlol yn galluogi CFRs i leddfu poen ar unwaith, gan wella cysur cleifion a chefnogi teuluoedd a gofalwyr wrth iddynt aros am gymorth meddygol pellach.
Dulliau
- Cyflwynwyd analgesia mewnanadlol ar gyfer pob CFR o fewn fframwaith clinigol rheoledig.
- Sefydlwyd grŵp gorchwyl a gorffen clinigol ym mis Tachwedd 2022 gyda rhanddeiliaid allweddol ac arweinwyr clinigol.
- Sefydlu seilwaith prynu a logisteg cenedlaethol ar gyfer gwirfoddolwyr ledled Cymru.
- Wedi rheoli'r prosiect gan ddefnyddio methodoleg PRINCE2 gydag arweinydd prosiect ac uwch swyddog cyfrifol.
- Roedd cyfarfodydd wythnosol yn cynnwys agendâu ffurfiol, logiau gweithredu, cofrestr risg, adroddiadau amlygu a chyfrifoldebau rhanddeiliaid.
- Aeth y grŵp gorchwyl i'r afael ag agweddau cyfreithiol, ariannol, amgylcheddol, logistaidd ac o ran hyfforddiant ar gyfer dros 600 o wirfoddolwyr.
- Er gwaethaf heriau, bu’r grŵp yn canolbwyntio ar wella gofal cleifion a chefnogi gwirfoddolwyr.
Canlyniadau
"Rydw i wedi ei ddefnyddio a does gen i ddim ond pethau positif i’w ddweud amdano!"
- Hyfforddwyd ac aseswyd 600 o wirfoddolwyr i roi analgesia yn ddiogel o fewn fframwaith addysg a lywodraethir yn glinigol.
- Mae hyfforddiant wedi'i gynnwys mewn rhaglenni sefydlu CFR ac yn cael ei gynnig ar-lein ac wyneb yn wyneb, gydag asesiadau cymwysedd.
- Dechreuodd y gwirfoddolwyr hyfforddedig cyntaf ddefnyddio’r analgesia ym mis Mai 2023, ochr yn ochr â'r system cofnodion gofal cleifion electronig newydd.
- Ers mis Mai 2023, mae 5655 uned o Penthrox wedi cael eu rhoi gan wirfoddolwyr a staff WAST.
- Dangosodd archwiliad Awst 2023 gydymffurfiaeth o 95.7% â'r protocol, gydag adolygiad clinigol a dysgu ar gyfer y 4.3% a roddwyd y tu allan i'r protocol.
Dysgu
- Mae gwirfoddolwyr yn rhagweithiol ac yn barod iawn i gymryd diddordeb, gan ddarparu cymorth gofal hanfodol i gleifion.
- Roedd cyflwyno analgesia yn amserol ac yn angenrheidiol, gan wella gallu gwirfoddolwyr i helpu cleifion yn effeithiol.
- Heb sylweddoli faint o awydd oedd ymhlith gwirfoddolwyr a staff am yr hyfforddiant; wedi sicrhau cydymffurfiaeth o 71-93% ar draws y Byrddau Iechyd erbyn mis Mai 2023.
- Wedi wynebu heriau o ran caffael, storio a dosbarthu, ond cydweithio o fewn y GIG wedi sicrhau bod y system wedi’i chyflwyno’n llyfn.
- Roedd casglu data yn heriol ar y dechrau oherwydd y cofnodion cleifion electronig newydd.
- Mae'r broses archwilio clinigol wedi bod yn fecanwaith diogelwch gwerthfawr ac yn rhoi sicrwydd o ran llywodraethu clinigol.
Beth nesaf?
- Cyfleoedd i wella sgiliau gwirfoddolwyr a’r cynnig i gymunedau.
- Gweithio ar broses ymgynghori gyda chleifion er mwyn iddynt allu rhoi adborth.
- Y dull o weithio cenedlaethol yn golygu bod modd rhannu prosesau a’r hyn a ddysgwyd drwy’r DU.
Cysylltiadau
jonathan.jones13@wales.nhs.uk