Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Gofal Effeithlon GIG Cymru

ENILLYDD - Llwybr diagnosis cyflym canser y brostad newydd (PROSTAD) (BIPHDd)

Gan gydnabod effaith negyddol amseroedd aros hir, lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, a Rhaglen TET Cancer Research UK lwybr PROSTAD ym mis Mehefin 2023 i wella diagnosis o ganser y prostad yng Ngorllewin Cymru.

Prosiect Gwas y Neidr – Gofal uchel ar y ward ar gyfer cleifion scoliosis idiopathig ar ôl llawdriniaeth (BIPCAF)

Ynghyd â llawfeddygon asgwrn cefn ymgynghorol, y tîm meddygol pediatrig, anesthetyddion, a thîm nyrsio Ward Gwdihŵ, fe wnaethom sefydlu 'Prosiect Gwas y Neidr,' gan greu ardal gofal lawfeddygol uchel ar Ward Gwdihŵ.

Llwyddiant Cleifion Orthopedig Allanol: Meistroli Llawdriniaethau Dydd (BIPBC)

Ein nod oedd lleihau rhestrau aros a gwella effeithlonrwydd theatr drwy adleoli mân lawdriniaethau dydd i leoliad cleifion allanol pwrpasol.