Preetham Kodumuri, Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cyflwyniad
Roedd ein hadran orthopedig yn wynebu her sylweddol gyda thua 5000 o gleifion yn aros dros 52 wythnos am lawdriniaeth, gyda 60% ohonynt yn addas ar gyfer mân driniaethau dydd.
Roedd absenoldebau staff, llwythi achosion cymhleth, a materion logistaidd yn amharu ar effeithlonrwydd theatr, gan roi straen pellach ar adnoddau. Mewn cyfarfod 'Cael pethau'n iawn y tro cyntaf' (GIRFT) yng Ngogledd Cymru, dangoswyd bod diffyg amser theatr pwrpasol yn cyfrannu’n sylweddol at yr heriau hyn.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, ein nod oedd lleihau rhestrau aros a gwella effeithlonrwydd theatr drwy adleoli mân lawdriniaethau dydd i leoliad cleifion allanol pwrpasol.
Dulliau
- Cyfweld cleifion a theuluoedd i sicrhau gwerth cymunedol.
- Cynnig ystafell bwrpasol ar gyfer mân driniaethau gyda'r nod o symud mân lawdriniaethau dydd i ryddhau prif theatrau a hybu effeithlonrwydd.
- Rhanddeiliaid allweddol: llawfeddygon orthopedig, staff theatr, personél gweinyddol, staff rheoli cyfleusterau.
- Roedd cydweithio yn sicrhau arweiniad clinigol, mewnwelediadau logistaidd, ac optimeiddio llif gwaith.
- Wedi meithrin perchnogaeth, atebolrwydd, a diwylliant o welliant parhaus.
Rhoddwyd nifer o newidiadau ar waith, ac aseswyd eu heffaith yn ôl effeithlonrwydd a chanlyniadau i gleifion:
- Adnabod Lleoliad Addas
- Offer a Gorchuddion Llawfeddygol mwy effeithiol
- Presenoldeb Uniongyrchol Cleifion Allanol
- Llai o Ofynion o ran Staff
- Nifer y Triniaethau
- Amser Theatr Ychwanegol
Canlyniadau
- Profiad Gwell i Gleifion: Gofal wedi’i symleiddio yn lleihau amseroedd ymweld â'r ysbyty o bedair awr i awr.
- Gwell Defnydd o Adnoddau: Costau trin is gydag offer a gorchuddion mwy effeithiol, a’r staff sy’n ofynnol fesul triniaeth wedi gostwng 66%.
- Cynyddu’r Gyfradd Brosesu Llawdriniaethau: Wedi gwella o 20%, gan ganiatáu mwy o lawdriniaethau o fewn yr un amserlen a lleihau amseroedd aros.
- Defnydd Ychwanegol o Amser Theatr: Rhyddhau amser theatr sy'n cyfateb i tua 50 o lawdriniaethau mawr.
- Effaith Weithredol Gadarnhaol: Gwella effeithlonrwydd theatr a llif gwaith cyffredinol.
Dysgu
- Roedd addasu’n gyflym i heriau ôl-COVID yn hanfodol.
- Roedd ymgysylltu â rhanddeiliaid amrywiol yn hybu gweithrediad llyfn.
- Roedd y broses o ailadrodd yn sicrhau gwelliannau parhaus wrth ddarparu gwasanaethau.
- Roedd blaenoriaethu anghenion cleifion yn sail i’r broses gwneud penderfyniadau.
Beth nesaf?
- Rhannu ein profiadau mewn cyfnodolyn Gwella Ansawdd mewn Ymarfer.
- Cydweithio â Chomisiwn Bevan mewn digwyddiadau "Mabwysiadu a Lledaenu".
- Gwerthuso cynlluniau, casglu adborth a dadansoddi dangosyddion perfformiad allweddol (KPI).
- Archwilio cyfleoedd i ehangu ac efelychu cynlluniau mewn adrannau eraill.
Cysylltiadau
preetham.kodumuri@wales.nhs.uk